Croeso i wefan dwristiaeth swyddogol Sir Conwy. Yma, gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth rydych ei hangen i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad nesaf â Chonwy; lle mae Eryri’n cyrraedd y môr.
Mae ein hardal ni’n ymestyn ar hyd arfordir Gogledd Cymru ac i mewn i’r tir, i lawr Dyffryn Conwy. Yma mae cyrchfannau gwyliau poblogaidd fel:
- Abergele a Phensarn
- Betws-y-Coed (caiff ei adnabod hefyd fel porth Eryri)
- Bae Colwyn
- Conwy
- Deganwy a chyffordd Llandudno
- Llandudno
- Llanfairfechan
- Llanrwst
- Penmaenmawr
- Llandrillo yn Rhos
- Towyn a bae Cinmel
Mae gennym Draethau Baner Las anhygoel, y https://cy.visitconwy.org.uk/pethau-i-w-gwneud/car-cebl-llandudno-p277371 a’r pier, theatrau gwych, sw ddiddorol, cyrsiau golff o’r radd flaenaf, mynyddoedd a chestyll mawreddog, bwytai a thafarndai gwych ac ystod lawn o weithgareddau awyr agored.
A dim ond blas yw hynny.
Mae ein gwefan yn cynnwys y celfyddydau a diwylliant hefyd, yn ogystal â chyngor teithio, gwybodaeth i ymwelwyr, <https://cy.visitconwy.org.uk/beth-sydd-mlaen> a <https://cy.visitconwy.org.uk/pethau-i-w-gwneud>. Hefyd, mae gennym ddewis eang o https://cy.visitconwy.org.uk/llety. Mae gennym bopeth o westai moethus i wely a brecwast, bythynnod hunan-arlwyo a pharciau carafanau sy’n cynnig gwerth da am arian.
Mae nifer o ymwelwyr yn dod bob blwyddyn. Yn 2018, Conwy oedd y sir yr ymwelwyd â hi fwyaf yng Ngogledd Cymru. Bydd ein gwefan yn eich helpu i chwilio drwy’r pethau gorau yng Ngogledd Cymru, fel y gallwch chi weld pam mae 9 miliwn o bobl yn dewis dod yma ar eu gwyliau bob blwyddyn.
Fe gewch draethau tywodlyd, chwaraeon dwr, llwybrau cerdded, bywyd gwyllt a chyngor am ble i aros a https://cy.visitconwy.org.uk/pethau-i-w-gwneud/siopa
Yn y rhan yma o’r byd, mae gwyliau byr a hir, a phethau i’w gwneud o bob llun a lliw i’w cael. Felly os ydych chi’n trefnu gwyliau, mae popeth yma! Ewch i gael cipolwg – chewch chi ddim eich siomi!