Am
A ydych chi erioed wedi breuddwydio am fynd ar daith fythgofiadwy i wlad ogoneddus llawn cyffro- gwlad sydd ar fin bod yn ‘Brifddinas Antur Ewrop’?
Dychmygwch fod yn rhan o antur fythgofiadwy anhygoel; teithio ar sled wedi’i thynnu gan dîm o gŵn a theimlo’r adrenalin a’r egni yn llifo drwyddoch wrth i’r tîm awchus ruthro’n gyffrous i’w harnesi. Cewch daith ar sled drwy lwybrau troellog, tonnog a barrugog wedi eu hamgylchynu gan goedwigoedd eang. Wrth i wres yr haul glirio’r niwl oeraidd, yn y pellter gallwch weld trwch o eira yn coroni’r mynyddoedd.
Wel, peidiwch â breuddwydio mwyach! Dyma’r gwirionedd yma yng Ngogledd Cymru.
Anturiaethau Mynydd Sleddog yw’r atyniad cyntaf cŵn tynnu sled yng Nghymru. Mae’r atyniad unigryw yma yn cynnig y cyfle i unigolion, teuluoedd a grwpiau i fwynhau antur cŵn yn tynnu sled. Mae Anturiaethau Mynydd Sleddog hefyd yn cynnig teithiau sled cynhyrfus gyda tîm o gŵn rasio hysgi
Mae gennym cwta ugain mlynedd o brofiad hyfforddi a rasio cŵn tynnu sled yn y DU a thramor. Rydym yn falch iawn o gynnig anturiaethau cyffrous iawn gyda’n cŵn. Ar hyn o bryd mae ein gweithgareddau yn cael eu cynnal yng Nghoedwig De’r Alwen ger Cerrigydrudion, Conwy gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydyn yn cynnig amrywiaeth o anturiaethau, megis:
Antur Cyfarfod y Tîm - Dyma gyfle unigryw i unigolion, teuluoedd a gwpiau i ymgolli’n llwyr yn chwaraeon sleddog; cyfle i gyfarfod a rhwydweithio gyda’n tîm o gŵn tynnu sled, yn ogystal â gwylio sesiwn hyfforddi’r cŵn rasio drwy’r goedwig. I gau’r sesiwn cewch gyfle am baned o siocled poeth a gwrando ar rai o straeon difyr am hanes chwaraeon a rasio sleddog.
Antur Tîm Rasio - Dyma brofiad anhygoel ar gyflymdra. Cewch gyfle i gymryd taith yn ein trol i deithwyr a fydd yn cael ei thynnu gan dîm o gŵn rasio. Bydd y tîm yn eich cludo ar daith wefreiddiol drwy lwybrau tonnog Coedwig De’r Alwen. Mae’r llwybrau wedi ei lleoli yng nghanol gweundir agored syfrdanol, gyda bryniau tonnog Cymru a chadwyn o fynyddoedd yr Wyddfa yn y cefndir. I gau’r sesiwn cewch gyfle am baned o siocled poeth a gwrando ar rai o straeon difyr am hanes chwaraeon a rasio sleddog.
Heicio Hysgi - Os ydych yn hoffi heicio ac yn caru hysgis, dyma’r antur ar eich cyfer chi. Ar ôl cyfnod cynefino ar ddiogelwch byddwch yn cael eich cyflwyno i’ch Cyfaill Hysgi Siberaidd. Byddwch yn derbyn eich Gwregys Diogelwch Heicio Hysgi a’ch cysylltu i’ch Cyfaill. Mae ein heiciau natur yn ein arwain drwy dirweddau gwyllt a digyffwrdd.
Ymunwch â ni yma yng Ngogledd Cymru am antur awyr agored llawn adrenalin - dewch i Brifddinas Antur Ewrop!
Dilynwch ni ar Facebook: @MynyddSleddogAdventures.
Pris a Awgrymir
Math o Docyn | Pris Tocyn |
---|---|
Oedolyn | £30.00 gweithgarwch |
Plentyn | £30.00 gweithgarwch |
Cysylltwch â Mynydd Sleddog Adventures Ltd yn uniongyrchol i gael gwybodaeth am becynnau a phrisiau.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Darparwyr
- Yn darparu ar gyfer grwpiau ysgolion
Nodweddion Darparwr
- Yn y wlad
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Teithio a Masnachu
- Disgownt ar gael ar gyfer grwpiau
Teithio Grw^p
- Derbynnir bysiau
TripAdvisor
Sgôr Teithwyr TripAdvisor:
- Ardderchog14
- Da iawn0
- Gweddol0
- Gwael0
- Ofnadwy0