I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Sut i Dreulio Diwrnod yn Nhref Conwy
Bore: Hanes a golygfeydd
P’un ai ydych chi wedi parcio eich car neu wedi camu oddi ar drên…gallwch ddechrau eich diwrnod yng Nghonwy gydag ymweliad â Chastell Conwy, sy’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Wedi ei adeiladu gan Edward I yn y 13eg ganrif, mae’n cynnig golygfeydd trawiadol o’i dyrrau a golwg fanwl ar hanes yr Oesoedd Canol. Caniatewch o leiaf awr i archwilio waliau’r castell, ei dyrrau a’i siambrau mewnol.
Ar ôl hynny ewch am dro ar hyd waliau’r dref, sydd ymhlith y rhai sydd wedi eu cadw orau yn Ewrop — maent yn wych i gael golygfeydd panoramig o’r dref a’r bryniau o amgylch. Mae’r gylchdaith gyfan yn cymryd tua 45 munud ac yn darparu golygfannau trawiadol dros doeau tai, y castell a’r harbwr. Mae’r waliau yn eich tywys yn ôl tuag at ganol y dref, lle gallwch archwilio Plas Mawr, tŷ trefol o Oes Elisabeth sy’n dangos bywyd yn y 16eg ganrif a sy’n un o’r tai trefol o Oes Elisabeth sydd wedi ei gadw orau ym Mhrydain.
Barod am goffi:
Ar ôl bod yn gweld y golygfeydd yn ystod y bore, beth am frecwast hwyr neu frecinio yn Siop Goffi L’s neu’r Caffi Cantîn yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy, cyn crwydro i lawr y Stryd Fawr lle gwelwch siopau bwtîg hyfryd a siopau crefft. Mae’n rhaid i chi brofi’r siocled cyntaf o’r gneuen i’r bar yn Barvelli’s, gwneuthurwyr siocled lleol neu brofi cynnyrch lleol eraill o siop cigydd Edwards o Gonwy. Peidiwch ag anghofio hefyd i alw heibio Canolfan Groeso Conwy i ddod o hyd i’r gofrodd neu anrheg berffaith i’w gludo adref gyda chi.
Hanner dydd: Cinio a mwynhau hudoliaeth y cei
Mwynhewch ddiod yn y prynhawn yn yr ardd gudd yn Vinomondo sy’n rhoi golygfa drawiadol o Eglwys y Santes Fair. Ar ôl i chi adfywio cerddwch i lawr i Gei Conwy i ymweld â’r Tŷ Lleiaf ym Mhrydain i gael tynnu llun, yna mwynhewch grwydro’n hamddenol ar hyd y cei a’r aber. Dim ond ychydig funudau mae’n ei gymryd i weld y tu mewn, ond mae’n brofiad rhyfeddol a chofiadwy.
Prynhawn: Taith ar gwch a byd natur
Ar ôl cinio, ewch ar gwch gydag un o’r gweithredwyr teithiau cychod ar y cei fel AquaTour. Maent yn cynnal teithiau cwch rheolaidd o’r cei yn ystod y tymor prysuraf a byddant yn rhoi golygfeydd o’r castell, yr aber a’r morlun i chi.
Yn y prynhawn cerddwch i fyny i Fynydd Conwy lle cewch olygfeydd godidog dros yr arfordir ac Eryri neu arhoswch yn nes i’r dref ac archwiliwch Goedwig Bodlondeb a llwybr arfordir Cymru ar hyd yr aber.
Gyda’r nos: Ymlaciwch a bwytewch
Gorffennwch eich diwrnod gyda phryd o fwyd yn Jackdaw — sy’n gweini profiad bwydlen flasu Gymreig wedi ei dewis yn arbennig.
Mae cynllun cywasgedig tref Conwy yn ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer taith diwrnod, ac mae’n cyfuno hanes, natur a diwylliant lleol mewn un lleoliad trawiadol.
Wrth i’r diwrnod ddod i ben, cerddwch yn ôl tuag at y cei neu waliau’r castell i gael golygfa am y tro olaf o’r haul yn machlud dros aber Conwy.
Gallwch gynllunio eich taith eich hun drwy bori drwy Wefan Dewch i Gonwy ac arbed eich ffefrynnau i’n cynlluniwr!
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl