I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Croesawu'r Gaeaf yng Nghonwy!
Mae'r prosiect hwn wedi'i ariannu gan Lywodaraeth y DU drwy y Cronfa Ffyniant Gyffredin DU.
Croesawu’r gaeaf yng Nghonwy
Wrth iddi nosi’n gynt, ac i rew orchuddio bryniau Gogledd Cymru, mae Conwy’n dod yn fyw gyda hud y gaeaf. O dân gwyllt i deithiau cerdded yn y goedwig, dyddiau sba moethus, i fwyd bythgofiadwy, dyma’r tymor i ymlacio, gwisgo’n glyd, a chofleidio’r gorau sydd gan y gaeaf i’w gynnig.
Mae’r Gaeaf ar y Ffordd
Ewch i estyn eich hetiau a’ch menig - mae tymor y gaeaf ar fin cychwyn gyda bang yng Nghonwy. Bydd yr awyr uwchben bae Llandudno yn llawn lliw ddydd Gwener 07 Tachwedd, gydag arddangosiad tân gwyllt blynyddol Llandudno. Os hoffech damaid i’w fwyta cyn y sioe, galwch heibio bwyty’r Review, sydd wedi’i adnewyddu’n ddiweddar, ar gyfer y llecyn perffaith i wylio.
Paratowch at y Nadolig yng Nghonwy
Wrth i dudalen y calendr droi i fis Rhagfyr, bydd trefi a phentrefi Conwy’n dechrau goleuo gyda goleuadau bach ac arddangosfeydd nadoligaidd mewn ffenestri. Ymlwybrwch drwy strydoedd cerrig Conwy, a dewch o hyd i siopau annibynnol llawn anrhegion crefft, pethau gaeafol i’r cartref, gemwaith a wnaed â llaw a danteithion blasus.
Cofiwch am Wŷl Ganoloesol Conwy ar ddechrau fis Rhagfyr. Wrth iddi nosi, bydd tortshis tân yn cael eu cynnau wrth i’r orymdaith gychwyn o Sgwâr y Castell, gyda marchogion mewn arfwisg a chymeriadau canoloesol y cario tortshis drwy’r dref.
Yn lle gaeafgysgu, beth am gael eich gwynt atoch gyda gwyliau lles y gaeaf hwn?
Mae Wave Garden Spa yn Nolgarrog yn cynnig encil heddychlon yn ystod y gaeaf. Wedi’i leoli ar gyrion Eryri, gyda golygfeydd bendigedig o Ddyffryn Conwy, ymlaciwch yn eu pyllau hydrotherapi dan do ac awyr agored, gan fwynhau golygfeydd godidog o’r mynyddoedd.
Os ydych chi’n teimlo’n fwy egnïol, pam na fentrwch i archwilio lles drwy gymryd taith gerdded drwy natur yn un o’n coedwigoedd gwyrdd megis Gwydir ym Metws-y-coed. Wedyn, ewch i Swallow Falls Inn tu allan i’r pentref am ginio nadoligaidd blasus ac ennyd i feddwl o flaen tanllwyth o dân cysurus.
Blas ar y gaeaf
Mae’r gaeaf yng Nghonwy yn berffaith ar gyfer prydau hir o fwyd, sgyrsiau diddiwedd, a bwyd cyfoethog, tymhorol. O brydau tafarn traddodiadol i blatiau Cymreig cyfoes, mae ein dewis o leoedd i fwyta yn gynnes, yn groesawgar ac yn flasus tu hwnt.
Mae cogyddion lleol yn hyrwyddo cynhwysion megis cig carw, madarch gwyllt, a pherlysiau arfordirol - gyda sawl un wedi cael eu fforio o’r tir ei hun. Boed hi’n ginio dydd Sul ar ôl taith gerdded ffres, neu fwydlen flasu arbennig, mae sin bwyd Conwy yn cynnig rhywbeth at ddant pawb.
Pawen Lawen
Mae Conwy’n faes chwarae gaeafol i gŵn a’u perchnogion. Lapiwch yn gynnes ac archwiliwch lwybrau’r coetir yng Nghoedwig Alwen, ac yfwch baned gynnes yng Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig. Yn well gennych fynd i ymweld â’r arfordir? Gadewch i’ch ci redeg ar draethau agored Morfa Conwy. Gyda thyrfa’r haf wedi gadael, mae’n heddychlon, yn wyllt, ac yn berffaith ar gyfer anturiaethau oddi ar y tennyn.
Bydd sawl caffi a thafarn yn croesawu cŵn. Mae Caffi Conwy Falls ym Metws-y-coed yn fan perffaith ar eich cyfer chi a’ch anifail anwes! Wedi’i amgylchynu gan lwybrau coetir megis Taith Rhaeadr y Garreg Lwyd, mae’r caffi clyd, a chyfeillgar i gŵn hwn yn gweini prydau cartref swmpus, cacennau ffres, a Chroeso Cynnes Cymreig. Mae croeso i bawb - pawennau neu fŵts mwdlyd, does dim ots.
Anturiaethau Bythgofiadwy’r Gaeaf
Rhowch gynnig ar benwythnos llawn adrenalin gyda Mynydd Sleddog Adventures, lle byddwch yn cael eich tynnu ar sled drwy Goedwig De Alwen gan dîm o Gŵn Hysgi Siberia a Chŵn Sgandinafaidd!
Os ydych chi awydd mwy o wefr, ewch dan ddaear gyda Go Below Underground Adventures ger Betws-y-Coed. Byddwch yn dringo, yn gwibio ar y wifren ac yn teithio ar gwch drwy fyd tanddaearol o dan Eryri - mae’n epig.
Ar gyfer teuluoedd, cyplau neu’r sawl sy’n chwilio am wefr, mae Adventure Parc Snowdonia yn Nolgarrog yn cynnig cwrs rwystrau ninja dan do, cyrsiau ogofa rhaffau uchel a mwy - yn ddelfrydol ar gyfer llosgi egni ar ddiwrnod oer.
Os ydych chi wrth eich bod gydag anifeiliaid a natur, peidiwch ag anghofio am eich antur aeafol yn Sŵ Fynydd Gymreig, Bae Colwyn! Mae’r sŵ hyfryd hon yn cynnig cyfle unigryw i weld anifeiliaid egsotig megis llewpard yr eira a’r panda coch yn eu cynefinoedd gaeafol. #TeimlorHwyl!
Codwch wydraid i’r tymor
Mae mynd allan i yfed yn lleol yng Nghonwy’n brofiad arbennig yn ystod y gaeaf; mae’n cynnig y ffordd berffaith i gynhesu ar ôl diwrnod oer yn archwilio. Os ydych chi’n sipian jin sbeislyd, wisgi Cymreig, neu gwrw crefft beiddgar, mae rhywbeth ar gael ar gyfer pob tymor.
Ewch i Ddistyllfa Penderyn, lle gallwch flasu wisgi brag sengl a gwirodydd sydd wedi ennill gwobrau. Mae eu teithiau tywys a sesiynau blasu yn cynnig cipolwg diddorol o’r broses ddistyllu - ac yn cynnig diwrnod allan gwych yn y gaeaf pan mae’r tywydd yn wyllt tu allan.
Yng nghanol Llandudno, mae bar cwrw Wild Horse Brewing Co yn cynnig cwrw crefft heb ei ffiltro yn syth o’r tap, a fragwyd ar y safle. Mae eu stowts a’u cwrw dihopys yn braf ar gyfer cynhesu yn y gaeaf, ac mae’r atmosffer hamddenol yn ddelfrydol ar gyfer nosweithiau i ymlacio gyda ffrindiau.
Mae’n rhaid i’r sawl sy’n hoffi gwin ymweld â Vinomondo yn nhref Conwy. Mae’r siop win annibynnol a’r bar yn llawn gwinoedd a ddewiswyd yn bwrpasol, cwrw lleol a gwirodydd crefft. Iechyd Da!
Beicio ar hyd yr Arfordir: Reidiau Prydferth i Fae Cinmel
Archwiliwch arfordir anhygoel Gogledd Cymru ar Lwybr 5 Beicio Cenedlaethol, sy’n ymestyn o Lanfairfechan i Fae Cinmel. Nis oes traffig ar ran helaeth o’r llwybr hwn, ac mae’n cynnig golygfeydd godidog o Afon Conwy a Môr yr Iwerydd, mynyddoedd y Carneddau a thraethau ysblennydd. Mwynhewch seibiant braf ym Mhenmaenmawr, Bae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos, gyda chaffis clyd, a golygfannau arfordirol ar hyd y ffordd. Mae’r llwybr yn dod i ben ym Mae Cinmel, sy’n berffaith ar gyfer ymlacio gyda danteithion glan y môr a phryd o fwyd.
Swatio yng Nghonwy
Pan mae’r tymheredd yn gostwng a’r dyddiau’n byrhau, does dim i drechu encilio mewn lle cynnes a chroesawgar. Yn Sir Conwy, mae llety’r gaeaf yn gysurus, llawn cymeriad, gydag ychydig o foethusrwydd.
Ar gyfer dihangfa foethus archebwch eich lle yn Neuadd a Sba Bodysgallen, gwesty tŷ gwledig hanesyddol wedi’i leoli mewn parcdir arbennig gyda golygfeydd o Eryri a Chastell Conwy. Ar ôl diwrnod o archwilio, ymlaciwch yn eu lolfeydd cain, mwynhewch bryd o fwyd yng ngolau cannwyll, a thretiwch eich hun i driniaeth yn y sba sydd wedi ennill gwobrau.
Os oes well gennych fod ger y môr, mae Gwesty a Sba The Quay yn Neganwy’n cynnig moethusrwydd cyfoes gyda golygfeydd anhygoel dros Aber Afon Conwy. Swatiwch mewn ystafell braf, nofiwch yn y pwll dan do, neu mwynhewch fwydlen dymhorol yn y bwyty, lle mae cynhwysion lleol yn cael eu harddangos.
Am rywbeth unigryw, ceisiwch y Castle Hotel yn nhref Conwy. Mae’r dafarn hanesyddol hon yn agos iawn i Gastell Conwy, ac mae’n cynnig atmosffer hamddenol - wedi’i orffen gyda brecwast Cymreig a chroeso cynnes ar ôl diwrnod o anturiaethau gaeafol.
Yn well gennych gymryd pethau’n araf? Mae gan Gonwy ddewisiadau hunan-arlwyo gwych hefyd - o seibiant mewn carafán gyda Thornley Leisure Parks neu fythynnod gwyliau gydag Ystâd Bodnant.
Os ydych chi’n chwilio am y mawreddog a’r moethus, neu’r bach, a llawn cymeriad, mae gan Gonwy wyliau gaeafol sy’n cyd-fynd â steil pawb. Felly cyneuwch y tân, cymerwch wydraid, a swatiwch!
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl