I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Treftadaeth > Cestyll
CESTYLL
Yn gryno. Pedwar safle hanesyddol sy’n dweud llawer am y gorffennol.
Mae stori hanesyddol fawr Gogledd Cymru yn canolbwyntio’n anorfod ar y cestyll nerthol a godwyd gan y Brenin Edward I ar ddiwedd y 13eg ganrif i oresgyn y Cymry. Ond dim ond rhan o’r darlun ydynt mewn gwirionedd.
Mae Castell Dolwyddelan, er enghraifft, yn cynrychioli ochr arall y frwydr am oruchafiaeth rhwng yr Eingl-Normaniaid a Thywysogion Gwynedd. Adeiladwyd y gaer unig hon, a saif ar grib uchel uwchlaw ffordd allweddol drwy Eryri, gan Llywelyn Fawr (1173–1240), cymeriad cryf ac uchelgeisiol a sicrhaodd elfen o undod yng Nghymru gan gadw’r Saeson draw. Saif tŵr sgwâr unig yn falch ar graig uwchben y dyffryn, cafodd ei addasu’n helaeth gan adferwyr Fictoraidd er mwyn rhoi ymddangosiad rhamantaidd heddiw iddo. I’w werthfawrogi’n llawn, dringwch i ben y murfylchau i brofi ysbryd di-ildio’r cadarnleoedd mynyddig a garw hyn, na lwyddodd yr Eingl-Normaniaid i’w concro’n llwyr.
Saif adfeilion castell Deganwy, un arall o geiri’r Tywysogion Cymreig, ar bentir uwchlaw aber Afon Conwy. Er nad oes llawer o’r castell canoloesol ar ôl bellach, mae’n amlwg pam y cafodd y safle strategol hwn, â’i olygfeydd aruchel o’r môr ac Eryri, ei ffafrio hefyd gan y Rhufeiniad 1,000 o flynyddoedd ynghynt.
Mae Castell Gwydir yn Llanrwst yn ryfeddod prin. Yn y lle cyntaf, nid yw’n edrych fel castell arferol. Mae’r adeilad yn dyddio o tua 1500 felly nid yw’n ddigon hen i fod yn gastell o’r iawn ryw, roedd cysuron cartref yn dod yn bwysicach nag amddiffyn ac ymosod erbyn hynny. Mae Castell Gwydir yn blasty sy’n sicr yn gwneud ei farc gan adlewyrchu dylanwad a chyfoeth teulu enwog y Wynniaid. Mae hefyd yn un o’r enghreifftiau prin yng Nghymru o blasty â phorth Tuduraidd, ac ychwanegir at ei hynodrwydd gan yr ardd restredig Gradd I, 10-acer o faint.
Ni fyddai’r stori’n gyflawn heb grybwyll Castell Conwy, rhan o’r ‘gadwyn haearn’ o gaerau a godwyd gan Edward I o amgylch Eryri. Dyma atyniad, sy’n Safle Treftadaeth y Byd, sydd bob amser yn creu argraff, o’r tyrau sydd wedi goroesi i’r lleoliad arbennig ar graig uwchlaw aber Afon Conwy.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl