Tafarndai a Bariau

Mae tafarndai a bariau yng Nghonwy, Llandudno a Betws-y-coed a’r ardaloedd o’u hamgylch yn gweini amrywiaeth eang o winoedd arbennig i’w mwynhau gyda phryd o fwyd blasus. Gallwch chi hefyd ddewis ymlacio mewn gardd gwrw braf, neu o flaen tanllwyth o dân coed a gwylio’r byd yn mynd heibio.

Mae llawer o dai tafarn yn cynnig dewis eang o gwrw go iawn a gwin moethus, yn ogystal â bwyd da – ar gael yn ystod y dydd hefyd mewn sawl un, ac mae rhai hyd yn oed yn cynnig llety.

Defnyddiwch y chwiliwr isod i ddod o hyd i dafarndai a bariau ar draws Sir Conwy…