Abergele a Phensarn

Meddwl mynd am wyliau ar arfordir braf gogledd Cymru? Mae Abergele a Phensarn yn cynnig cymysgedd o draethau tywodlyd tawel, bryniau coediog ac atyniadau hanesyddol, sy’n ddelfrydol ar gyfer gwyliau â’r teulu, dihangfa ramantus neu anturiaethau yn yr awyr agored.

Nid nepell o’r lan, gallwch gerdded neu fynd ar gefn beic ar hyd llwybrau hardd, mwynhau golygfeydd o’r môr ar y promenâd ym Mhensarn neu ymweld â mannau adnabyddus fel Castell Gwrych, lle bu ITV yn ffilmio I’m a Celebrity…Get Me Out of Here!.