Pethau i’w Gwneud

Mae sir Conwy, ar arfordir godidog gogledd Cymru, yn drysor i deithwyr sy’n chwilio am hanes, antur a natur.

Mae Castell Conwy, sy’n Safle Treftadaeth Byd UNESCO yn dominyddu’r awyr, ac yn cynnig golygfeydd panoramig o’r aber a’r mynyddoedd amgylchynol o’r tyrrau eiconig.  Cewch grwydro drwy furiau canoloesol y dref neu archwilio Plas Mawr, tŷ tref Elisabethaidd gydag addurniadau o’r cyfnod sydd wedi cael eu gwarchod yn ofalus.

Gall selogion awyr agored ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri i grwydro’r llwybrau a’r tirweddau dramatig.

Neu os ydych yn chwilio am rywbeth mwy hamddenol, beth am fynd am dro ar hyd Pier Fictoraidd Llandudno, neu fwynhau’r baeau ysgubol o Dramffordd y Gogarth, neu brofiad unigryw car cebl Llandudno, sy’n cynnig golygfeydd dros Fôr yr Iwerydd ac Ynys Môn. 

Ar gyfer y rhai sy’n hoff o fywyd gwyllt, mae Gwarchodfa Natur RSPB Conwy yn lleoliad hyfryd ar gyfer gwylio adar a mwynhau llwybrau cerdded syml drwy wlypdiroedd a choedwigoedd.  Neu, ymwelwch â’r Sŵ Fynydd Gymreig ym Mae Colwyn i gwrdd â swricatiaid, llewpardiaid yr eira ac anifeiliaid mwy egsotig.

Mae cyfoeth o leoliadau unigryw yng Nghonwy hefyd, megis y Tŷ Lleiaf ym Mhrydain, tŷ coch bychan iawn sydd ond ychydig dros 6 throedfedd o led ac yn rhoi cipolwg unigryw o amodau byw’r gorffennol.

I archwilio trefi fel Betws-y-coed, Abergele, Llandrillo-yn-Rhos a mwy, gweler yr adran Trefi a Phentrefi. Mae dewis gwych o lety, felly arhoswch am ychydig ddyddiau da chi!

Chwilio am wledd i’r blasbwyntiau?  Mae gan Gonwy amrywiaeth o fwydydd byd-eang i fodloni pawb, p’un a ydych yn ysu am gael blasu prydau lleol neu’n chwilio am rywbeth mwy anturus. 

Cofiwch ymweld â rhai o’n siopau hefyd, mae digonedd o ddewis ar gael ar draws y sir, o siopau annibynnol i farchnadoedd artisan.  Gallwch ddarganfod cynnyrch lleol, crefftau wedi’u gwneud â llaw, a chofroddion unigryw - anrhegion perffaith i fynd adref gyda chi i gofio am Gonwy!

Felly, ai Conwy fydd eich taith nesaf chi? 

Cynlluniwch eich ymweliad, gallwch ddewis o blith ystod o ddarparwyr llety gan gynnwys gwestai moethus, lletyau bwtîc gwely a brecwast ac eiddo hunanarlwyo o ansawdd uchel.

Darganfyddwch bethau i'w gwneud yn Sir Conwy...