Am
Parc Dŵr Sblash – Yr Antur Dŵr Eithaf yng Ngogledd Cymru!
Paratowch am ddiwrnod bythgofiadwy o hwyl ym Mharc Dŵr Sblash, sef parc dŵr cwrs rhwystrau gwynt gorau Gogledd Cymru! Wedi’i leoli yng nghanol Conwy, mae Sblash yn cynnig profiad llawn cyffro i bawb sy’n chwilio am antur o bob oed.
Bownsiwch, llithrwch a sblasiwch eich ffordd drwy ein cwrs rhwystrau gwynt enfawr sy’n cynnwys waliau dringo, trawstiau cydbwyso, llithrennau a thrampolinau – i gyd wedi’u gosod ar ddyfroedd bendigedig Gogledd Cymru. P’un a ydych chi’n rasio yn erbyn eich ffrindiau, yn rhoi prawf ar eich ystwythder neu dmi ond yn mwynhau miri’r dŵr, does yna ddim diwedd ar y cyffro.
Yn berffaith ar gyfer teuluoedd, grwpiau, pen-blwyddi a digwyddiadau meithrin tîm, mae Parc Dŵr Sblash yn amgylchedd diogel dan oruchwyliaeth, gyda chyfarpar diogelwch o’r radd flaenaf ac achubwyr bywyd ar ddyletswydd drwy’r amser.
Hyd yn oed os nad ydych chi’n chwilio am antur, mae ein lleoliad prydferth yn gwneud y parc hwn yn lle gwych i ymlacio, mwynhau’r golygfeydd a chael diwrnod i’r brenin.
Archebwch eich sesiwn heddiw a phlymio i fyd llawn antur Parc Dŵr Sblash – rydych chi’n siŵr o greu atgofion bythgofiadwy!
📍 Lleoliad: Penmaenmawr
🌊 Archebwch rŵan: www.sblash.co.uk
Cyfleusterau
Cyfleusterau Darparwyr
- Achubwr Bywydau
- Cawodydd
- Hyfforddwyr cymwys
- Lefel ffitrwydd ofynnol - canolig
- Offer/dillad am ddim
- Toiledau
- Yn darparu ar gyfer digwyddiadau Corfforaethol
- Yn darparu ar gyfer grwpiau ysgolion
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Teithio a Masnachu
- Disgownt ar gael ar gyfer grwpiau