Rydym eisiau i bawb sy’n dod i ymweld â ni fwynhau eu hamser yn Sir Conwy, i aros yn iach ac yn ddiogel.
Pan fyddwch yn dod i ymweld, cofiwch ddod â chyflenwad o unrhyw feddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd yn rheolaidd gyda chi. Gall gymryd amser i dderbyn presgripsiwn amlroddadwy, ac mae’n cynyddu’r galw ar wasanaethau iechyd lleol.
Os cewch eich taro’n wael neu os cewch ddamwain, helpwch ein gwasanaethau GIG lleol trwy roi’r cymorth gorau posibl drwy ddefnyddio gwasanaeth iechyd cywir ar yr adeg cywir.
Eich man cyswllt cyntaf ar gyfer cyngor iechyd arbenigol – gwasanaeth er mwyn rhoi cymorth a chefnogaeth ar gyfer nifer o gyflyrau iechyd cyffredin, gan gynnwys bresgripsiynau rheolaidd.
Mae GIG 111 Cymru ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos a mae’n cynnig arweiniad a gofal ar gyfer problemau meddygol and ydynt yn rhai brys ar-lein neu thros y ffôn.
Mae Unedau Mân Anafiadau yn ei gwnued yn hawdd I dderbyn triniaeth ar gyfer anafiadau and ydynt yn rhai difrifol neu’n bygwth bywyd. Maent yn debyg i Ganolfannau Galw i Mewn y GIG mewn ardaloedd eraill yn y DU.
Yn Sir Conwy:
Ysbyty Cyffredinol Llandudno, Hospital Road, Llandudno, Conwy LL30 1LB
Ar agor: 8am to 8pm, 7 diwrnod yr wythnos
Rhif Ffôn: 03000 850 013
Amseroedd agor yr uned pelydr-X: Dydd Llun - Dydd Gwener, 9am-4pm
Adrannau Brys
Mae’r Adrannau Achosion Brys ar gyfer anafiadau neu salwch sy’n bygwth bywyd yn unig
• Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, LL57 2PW
Ymholiadau ffôn cyffredinol: 01248 384 384
• Ysbyty Glan Clwyd, Y Rhyl, Sir Ddinbych, LL18 5UJ
Ymholiadau ffôn cyffredinol: 01745 583 910
Mewn argyfwng, ffoniwch 999.