Chwaraeon a Hamdden yn Sir Conwy
Mae Sir Conwy’n lle delfrydol i fod yn egnïol ac mae’n cynnig popeth o gerdded mynyddoedd a llwybrau coedwigoedd i draethau tywodlyd hir, llynnoedd mewndirol a chwaraeon dŵr ar yr arfordir. Gall cerddwyr grwydro ar hyd llwybrau’r Carneddau, Coedwig Gwydir a Llwybr Arfordir Cymru, tra gall beicwyr a beicwyr mynydd fwynhau llwybrau adnabyddus, lonydd gwledig tawel a llwybrau arfordirol llawn golygfeydd. Mae’r ardal hefyd yn boblogaidd ar gyfer padlfyrddio, hwylio, caiacio a physgota, gyda chyfleoedd gwych ar hyd yr arfordir ac ar lynnoedd megis Llyn Brenig a Llyn Crafnant. Mae dewis o gyrsiau golff twyni a pharcdir trawiadol ar gael i golffwyr, a gall y rheiny sy’n chwilio am rywbeth ychydig bach mwy egnïol roi cynnig ar wibgertio, sgïo ar lethr sych, dringo neu atyniadau antur ar gyfer y teulu.