AMGUEDDFEYDD AC ORIELAU
Yn gryno. Celf a’r cynfyd, brwydrau a brethyn.
Iawn, mae’n rhaid cyfaddef ei bod yn bwrw glaw yma weithiau. Ond does dim angen aros am dywydd gwlyb i fwynhau ein hamgueddfeydd a’n horielau. Ac mae yma ddewis eang. Beth am ddechrau ym MOSTYN, prif oriel gelf gyfoes Cymru. Mae’r oriel wedi mynd o nerth i nerth ers iddi gael ei ehangu rai blynyddoedd yn ôl pan ymgorfforwyd yr hen adeilad yn yr estyniad newydd – cynllun pensaernïol trawiadol sy’n ddarn o waith celf ynddo’i hun. Mae Amgueddfa Llandudno yn dilyn llwybr mwy traddodiadol, gan gynnig arddangosfeydd yn ymdrin ag eitemau o’r cyfnod cynhanesyddol i weithgareddau hamdden a phrofiadau rhyfel y dref. Mae amgueddfa The Home Front Experience, yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar fywyd y ffrynt cartref ym Mhrydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac yn cynnwys siopau o’r cyfnod, ystafelloedd a golygfeydd.
I weld mwy o weithiau celf ewch i’r Academi Frenhinol Gymreig, Conwy. Lleolir yr oriel mewn hen gapel ac mae’n canolbwyntio ar weithiau artistiaid sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.
Treftadaeth ddiwydiannol sydd dan sylw yn Amgueddfa Penmaenmawr – ac yn ogystal â dysgu am hanes chwarelyddol y pentref yn y 19eg ganrif, gallwch ddarganfod mwy am y ‘ffatri’ fwyelli gynhanesyddol anhygoel a leolwyd gerllaw.
Mae Melin Wlân Trefriw yn llawer mwy nag amgueddfa, oherwydd mae’r felin yn dal i weithio 150 o flynyddoedd ers ei sefydlu. Ond yn ogystal ag ymweld â’r felin ei hun, mae Amgueddfa’r Felin ar agor i’r cyhoedd ac yn le gwych i ddysgu mwy am hanes y diwydiant gwlân.
I ddarganfod mwy am fywyd yn y Gymru wledig ewch i Amgueddfa Syr Henry Jones yn Llangernyw ar Fynydd Hiraethog. Mae’r amgueddfa yn coffáu cyflawniadau'r athronydd a’r addysgwr disglair o’r 19eg ganrif na anghofiodd ei wreiddiau a’i bentref genedigol.