Trefriw
Mae Trefriw yn bentref hudolus ar ochr dawelaf Dyffryn Conwy, sy’n enwog am ei felin wlân hanesyddol, ei leoliad hyfryd ar lan yr afon a llwybrau cerdded hamddenol. Yn cael ei hanghofio’n aml gan rai sy’n aros ar brif ffordd yr A470, mae’n ardal heddychlon sy’n werth ei harchwilio.
Mae dŵr wedi ffurfio Trefriw ers canrifoedd. Darganfu’r Rhufeiniaid y pentref i ddechrau oherwydd ei ffynhonnau â’u mwynau cyfoethog, ac erbyn oes Fictoria, daeth yn gyrchfan sba bychan, pan oedd ymwelwyr yn teithio i fyny’r afon mewn cychod stêm o Gonwy i ddefnyddio’r dyfroedd.
Heddiw, mae dŵr yn dal i bweru’r peiriannau ym Melin Wlân Trefriw, ble mae tecstilau traddodiadol o Gymru, yn cynnwys carthenni a brethyn wedi cael eu gwau ers dros 150 o flynyddoedd. Mae’n un o’r ychydig felinau gwlân sydd ar ôl yng Nghymru ac mae’n lle cyfareddol i’w archwilio.
Uwchben y pentref mae dau lyn hardd, Llyn Crafnant a Llyn Geirionydd, yn swatio’n uchel yng Nghoed Gwydyr. Mae’r ddau’n cynnig teithiau cerdded heddychlon, mannau i gael picnic ar y lan a golygfeydd godidog sy’n teimlo ymhell iawn o brysurdeb rhannau eraill o Eryri.
Mae Trefriw hefyd yn fan cychwyn Llwybrau Trefriw, sy’n cynnig teithiau cerdded a beicio mwy hamddenol o’i gymharu â’r mynyddoedd o amgylch. Gall pysgotwyr fwynhau cyfleoedd gwych i bysgota am frithyll seithliw a brown ym Mhysgodfa Crafnant.
Defnyddiwch y chwiliadur isod i ddod o hyd i lety, atyniadau a digwyddiadau yn Nhrefriw.
Os oes arnoch angen help i gynllunio’ch taith, ffoniwch 01492 577577.