TREFTADAETH
Os ydych yn hoffi hanes a threftadaeth, yna rydych wedi dod i’r lle cywir. Am weld cestyll? Croeso i Safle Treftadaeth y Byd yng Nghonwy - lle mae’r castell ymhlith y gorau yn y byd. Ac nid dyna’r cyfan. Gallwch weld caer fynyddig a godwyd gan Dywysogion Gwynedd yn y canoloesoedd a phlasty Tuduraidd prin. Neu beth am ddarn o hanes sy’n wirioneddol hynafol? Dringwch i ben ein bryngaerau Celtaidd neu ewch i grombil y ddaear i ymweld â mwynglawdd copr cynhanesyddol unigryw.
Mae treftadaeth grefyddol gyfoethog ein heglwysi a’n capeli yn hawdd ei ddarganfod os dilynwch ein Teithiau Cysegredig – ac mae dewis o lwybrau tref hanesyddol difyr hefyd, mewn mannau megis Conwy, Llandudno, Bae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos.
Peidiwch â cholli’r cyfle i archwilio ein cymunedau gwledig hudolus lle mae traddodiadau ffermio cenedlaethau yn mynd o nerth i nerth. Mae llond rhai o’n pentrefi o drysorau cudd fel un o goed hynaf Cymru, beddrodau cerrig cynhanesyddol enigmatig, cerrig cerfiedig hynafol a phlastai mawreddog.
Yn ein hamgueddfeydd a’n horielau gallwch weld amrywiaeth o eitemau: o gelf gyfoes flaengar i atgofion am yr Ail Ryfel Byd. Ac mae ein gerddi yn wirioneddol brydferth – mae Gardd Bodnant yn y gwanwyn neu’r haf yn gampwaith flodeuog.
Peth byw yw treftadaeth yn yr ardal hon. Mae ein hiaith, ein diwylliant a’n hanes yn cyfrannu at ‘ymdeimlad dwfn o le’ – dyma sy’n ein gwneud yn wahanol i gyrchfannau eraill.
Yn ogystal, gallwn gynnig nifer fawr o brofiadau unigryw. Dyma rai o’r pethau sydd wedi’u cynnwys yn yr adran Treftadaeth hon:
-
Hoff gyrchfan glan-môr Alys yng Ngwlad Hud
-
Y muriau tref canoloesol gorau i oroesi yn Ewrop
-
Chwarel fwyelli o Oes y Cerrig
-
Eglwys leiaf Prydain
-
Melin wlân ecogyfeillgar a yrrir gan ynni dŵ