Dewch i Sir Conwy

Canllaw swyddogol i ymwelwyr ar gyfer Llandudno, Bae Colwyn, tref Conwy, Betws‑y‑Coed a holl Sir Conwy.

Croeso i Gonwy! Y wefan dwristiaeth swyddogol i Gonwy.

Mae Sir Conwy rhwng Eryri ac arfordir Gogledd Cymru, gyda threfi glan môr, safleoedd hanesyddol a thirwedd hardd.  Mae’n lle i ymlacio, archwilio a gwneud y mwyaf o’ch ymweliad.

Yn ymestyn ar hyd arfordir Gogledd Cymru ac i harddwch Dyffryn Conwy, mae’r sir yn gartref i drefi enwog megis Abergele, Betws-y-coed, Bae Colwyn, Conwy, Deganwy, Llandudno, Llanfairfechan, Llanrwst, Penmaenmawr, Llandrillo-yn-Rhos a Thowyn.

Dewch i ddarganfod atyniadau eiconig yn cynnwys Castell Conwy, sydd ar restr UNESCO, Pier Llandudno a’r Gogarth, y Sŵ Fynydd Cymru a choedwigoedd hudolus Betws-y-coed a llawer iawn mwy!

Gall teuluoedd fwynhau hwyl traddodiadol ar y traeth ac anturiaethau awyr agored a gall cyplau a theithwyr unigol ddod o hyd i lwybrau cerdded heddychlon, llwybrau arfordirol a golygfeydd godidog o’r mynyddoedd.  Mae Sir Conwy hefyd yn ddelfrydol ar gyfer gwyliau lles ac encil natur.

Gallwch ddewis o westai moethus, llety Gwely a Brecwast clyd, bythynnod hunanarlwyo a pharciau carafán - y cyfan â golygfeydd anhygoel.

Os ydych yn chwilio am antur neu lonyddwch, mae Sir Conwy yn cynnig profiadau bythgofiadwy yng Ngogledd Cymru ym mhob tymor.

Yr hydref yng Nghonwy – rhywbeth i bawb

Mae’r hydref yng Nghonwy yn dod â hud o wahanol fath. Wrth i’r dirwedd newid i arlliwiau o aur, copr a browngoch, mae’r cyflymder yn arafu, yr aer yn mynd fymryn yn fwy ffres a’r golygfeydd yn mynd hyd yn oed yn fwy dramatig. Mae’n amser gwych i grwydro ein harfordir, cefn gwlad a llawer o drefi a phentrefi dymunol heb y torfeydd sydd dod yn ystod y tymor prysur.

Autumn colours in the Conwy Valley

Os ydych chi eisiau mwynhau diwrnod cofiadwy yng Ngogledd Cymru yr hydref hwn, byddai taith yn y car drwy brydferthwch Dyffryn Conwy yn anodd ei churo. Dyma dirwedd sy’n eich gorfodi i deithio’n araf: ffyrdd troellog, golygfeydd ar lan yr afon, bryniau coediog a threfi marchnad hardd, i gyd wedi’u lliwio gan liwiau newidiol y tymor. Yn yr hydref, mae’r dyffryn yn cynnig awyrgylch tawelach a chyfoethocach, gyda’i ddail euraidd, boreau niwlog a digon o fannau i oedi ar hyd y ffordd.

Gwasanaeth Gwybodaeth i Ymwelwyr Sir Conwy

Ein uchwafpwyntiau Dewch i Gonwy

Gadewch inni eich ysbrydoli...

Archwiliwch Sir Conwy ar ein blog