I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Croesawu'r Gwanwyn yng Nghonwy!
Ydych chi’n chwilio am wyliau dros y gwanwyn yng Ngogledd Cymru?
Does dim rhaid edrych ymhellach - ymunwch â ni yn harddwch Sir Conwy! Wrth i’r diwrnodau fynd yn hirach a chynhesach mae ein tirluniau a gerddi yn dod yn fyw gyda lliw.
O ddiwrnodau allan hwyliog i’r teulu, i ddihangfa gysurus cefn gwlad a gwyliau sba moethus, mae Conwy yn le perffaith i ymlacio, tawelu a chael seibiant ar wyliau byr yn y DU!
Mae rhywbeth i bawb.
Mae gennym gynnig eang o opsiynau llety sy’n siŵr o blesio pob chwaeth a chyllideb! Edrychwch ar ein tudalennau llety.
Ewch i archwilio muriau a chastell canoloesol Conwy, mynd am dro hamddenol ar hyd ei chei golygfaol, neu fwynhau golygfeydd godidog o Landudno o Dram y Gogarth neu’r ceir cebl. Gallwch hefyd deithio trwy brydferthwch Dyffryn Conwy mewn car neu drên, gan aros mewn trefi a phentrefi tlws fel Llanrwst, Betws-y-coed, a Dolwyddelan.
Mae 2025 wedi cael ei ddynodi gan Groeso Cymru fel ‘Blwyddyn o Groeso’ ac mae’n amser #Teimlo’rHwyl yma yn Sir Conwy!
Camwch yn ôl mewn amser i archwilio hanes cyfoethog Sir Conwy'r Gwanwyn hwn. Cewch grwydro waliau a thyrau hynafol Castell Conwy, un o safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, neu ddarganfod strydoedd hardd y dref a’r muriau canoloesol.
Cofiwch ymweld â chei hardd y dref i gael golygfeydd godidog a blas ar ddiwylliant lleol, heb anghofio rhyfeddodau Tŷ Lleiaf Prydain!
Dyma sut y byddwch chi’n teimlo ar frig Y Gogarth, sef y pentir sy’n ymgodi fel anghenfil y môr uwch tref Llandudno. Mae’r hafan bywyd gwyllt hon yn un o safleoedd pwysicaf Prydain am blanhigion prin. Fe welwch chi flodau gwyllt y gwanwyn yn sbecian drwy’r glaswelltir calchfaen, adar y môr yn ymgynnull ar y clogwyni a dros 20 o rywogaethau o loÿnnod byw yn chwyrlio o’ch cwmpas. Cofiwch eich camera!
Mae’n rhy dda i’w golli. Mae Gerddi Bodnant yn lleoliad hyfryd i grwydro, gan ddychwelyd o un mis i’r llall i fwynhau pob sioe newydd o liw, o’r dolydd cennin pedr a charpedi o glychau’r gog i goed ceirios wedi’u gorchuddio â blodau bregus. Mae Bwa Tresi Aur enwog yr ardd yn dod yn fyw yn niwedd mis Mai. Mae’r twnnel 180 troedfedd/55 metr o flodau melyn yn hongian yn un o’r arddangosfeydd harddaf un.
Mae beicio yn Sir Conwy yn cynnig rhywbeth i bawb! Os ydych chi’n deulu, yn gwpl neu ar eich pen eich hun.
Beth am roi cynnig ar y Llwybr Beicio Cenedlaethol 5, Llwybr Beicio 30 milltir yng Nghonwy ar hyd yr arfordir o Lanfairfechan i Fae Cinmel?
Crwydrwch ar hyd y llwybrau hardd o amgylch Betws-y-coed a Dyffryn Conwy, gan feicio llaw wrth law ar hyd llwybrau heddychlon wedi’u hamgylchynu gan dirluniau godidog, heb anghofio bryniau Hiraethog i weld y golygfeydd hardd.
Os ydych chi’n dilyn Llwybr Alys yng Ngwlad Hud, mynd am dro bach hamddenol o amgylch Llyn Crafnant, neu’n crwydro harddwch coediog Betws-y-coed, mae llwybr cerdded yma i bob gallu.
Mwynhewch grwydro ar hyd traethau Llandrillo-yn-Rhos, Pensarn, Llanfairfechan a mwy! ………
Mwynhewch olygfeydd dramatig ar Lwybr Ucheldir Pensychnant sy’n cynnig safbwynt hardd o Dref Conwy a thu hwnt, neu i fryniau Hiraethog am ffordd wych o brofi Rhosydd Hiraethog a’i bentrefi gyda digon o lefydd i stopio am luniaeth ac i fwynhau’r golygfeydd.
Mae Sir Conwy yn lleoliad sy’n gyfeillgar i gŵn, gan gynnig teithiau cerdded ar hyd yr arfordir, coedwigoedd a bryniau. Mae lleoliadau poblogaidd fel Llandudno, Betws-y-coed a Dyffryn Conwy yn croesawu cŵn, gyda nifer o gaffis a thafarndai yn cynnig powlenni cŵn a danteithion i gŵn. Os ydych chi’n cerdded, beicio neu’n mwynhau’r golygfeydd, mae Sir Conwy yn lleoliad perffaith ar gyfer gwyliau cofiadwy gyda’ch ci.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl