
Nifer yr eitemau: 131
, wrthi'n dangos 1 i 20.
Conwy
Agorwyd Paysanne yn 1988 gan Bob a Barbara Ross, pâr o Ffrainc-garwyr yn arbenigo mewn coginio Ffrengig.
Betws-y-Coed
Mae ein hethos bwyd wedi cael ei ddylanwadu dros y blynyddoedd wrth i fwy o gynhyrchwyr a chyflenwyr anhygoel ddod i’r amlwg yn lleol i werthu, tyfu a magu cynnyrch a da byw Cymru.
Betws-y-Coed
Mae’r Stablau ym Metws-y-Coed yn far a bwyty sy’n angerddol am flas a chynnyrch lleol. Lleolir yn nhref drawiadol Betws-y-Coed, a elwir yn Borth Eryri.
Llandudno
Gyda golygfeydd panoramig hyfryd ar draws bae Llandudno a’r glannau ysblennydd, bwyty Y Review yw’r lle gorau yn y dref i fwynhau pryd o fwyd a golygfeydd godidog.
Betws-y-Coed
Mae'r tîm yn ‘The Grill Room’ ar dân i sicrhau eu bod yn gweini cynnyrch ffres lleol, tymhorol.
Llandudno
Mae Dylans yn Llandudno yn fwyty sy’n addas i deuluoedd sydd wedi’i leoli yn hen westy’r Washington yng Nghraig-y-Don, Llandudno. Wedi’i leoli tuag at ddiwedd promenâd a bae Victoria yn Llandudno mae’n nodwedd eiconig ar lan y môr.
Colwyn Bay
Dafliad carreg o’r môr a thraeth hyfryd Porth Eirias y mae bistro Bryn Williams. Mae’r fwydlen yn llawn cynnyrch Cymreig sydd wedi cael ei gynhyrchu mor lleol â phosibl.
Conwy
Tafarn goetsys Sioraidd draddodiadol yw The Erskine Arms, sy’n swatio o fewn muriau canoloesol Conwy dafliad carreg o gaer ganoloesol fawreddog y Brenin Edward I, Castell Conwy.
Penrhyn Bay
Wedi’i leoli ym Mae Penrhyn, mae Home from Home yn fwyty lleol annibynnol sydd yn cynnig croeso cynnes mewn lleoliad cyfoes, sy’n cael ei yrru gan angerdd am fwyd da a gwasanaeth cyfeillgar.
Conwy
Wedi’i sefydlu ers nifer o flynyddoedd, mae Archway yn fwyty a chyfleuster bwyd i fynd pysgod a sglodion poblogaidd iawn sydd wedi’i leoli yn nhref gaerog ganoloesol Conwy.
Llandudno
Caffi ar brif stryd siopa Llandudno, Mostyn Street, tafliad carreg o’r promenâd a’r traeth.
Conwy
Pizza traddodiadol bendigedig wedi’u crasu â thân coed a dewis heb ei ail o jin a chwrw lleol, o fewn waliau hanesyddol Conwy.
Llandudno
Mae Caffi Parisella, Y Fach, yn gwerthu amrywiaeth eang o fwyd poeth ac oer, diodydd, lolipops rhew a chabinet gyda 24 blas yn llawn hufen iâ arobryn Parisella.
Llandudno
Bwydlen helaeth o brydau Cantoneg, a rhywfaint o brydau Siapaneaidd, sy’n cael eu gweini mewn awyrgylch ymlaciol.
Llandudno
Mae Dinos Llandudno yn frwd dros ddarparu bwyd blasus o safon uchel.
Llandudno
Nod Mediterranean Restaurant yw ail-greu'r teimlad gwyliau yn syth wrth i chi gamu i mewn i’r bwyty.
Llandudno
Yn gweini te, coffi, prydau traddodiadol a dewis anferthol o gacennau cartref ar stryd fawr Llandudno.
Conwy
Cwmni da, bwyd gwych, golygfeydd gwych - Mae ein tafarn deuluol, sydd wedi'i hadnewyddu i’r dim, yn cynnig croeso cynnes i bawb.