Nifer yr eitemau: 132
, wrthi'n dangos 61 i 80.
Colwyn Bay
Rydym yn deulu o ynys hardd Madeira ym Mhortiwgal, ac yn Virgilio’s rydym yn dod â blas o Madeira i Fae Colwyn gyda’n bwydlen Portiwgaleg.
Llanrwst
Mae Bar a Bwyty’r Eagles yn arbenigo mewn bwyd Indiaidd, bwyd bar a mwy.
Rhos-on-Sea
Tamaid bychan o nefoedd y De ar arfordir Gogledd Cymru yn Llandrillo-yn-Rhos, gyda gardd dawel ar gyfer bwyta a maes parcio mawr.
Rhos-on-Sea
Caffi i’r teulu sy’n cael ei redeg yng nghanol cymuned Llandrillo-yn-Rhos. Mae gweini bwyd a theisennau o ansawdd gyda dewisiadau llysieuol, fegan a heb glwten yn rhan fawr o’n bwydlenni ffres, cartref.
Colwyn Bay
Siop pysgod a sglodion traddodiadol gyda chyfleuster bwyd i fynd a bwyty trwyddedig.
Llandudno
Bwyty teuluol wedi’i addurno’n gyfoes gyda chanhwyllau ar y bwrdd, gan weini prydau Prydeinig ac Ewropeaidd.
Llandudno
Mae mynd am dro o amgylch Marine Drive ar y Gogarth yn brofiad hynod ddiddorol, gyda chyfoeth o archeoleg, daeareg a bioleg i’w gweld. Ond mae tipyn o waith cerdded am i fyny.
Llandudno
Nod Mediterranean Restaurant yw ail-greu'r teimlad gwyliau yn syth wrth i chi gamu i mewn i’r bwyty.
Conwy
Mae Dylan’s Conwy’n fwyty cyfeillgar sydd ond tafliad carreg o’r cei godidog yng Nghonwy.
Penrhyn Bay
Pysgod a sglodion traddodiadol wedi'u coginio'n ffres i'w harchebu; pasteiod stêc a chwrw cartref i fynd gyda chi neu eu bwyta yno.
Conwy
Dim ond y cynnyrch lleol gorau y mae'r Bistro yn ei ddefnyddio i greu prydau cartref. Rydym yn ymfalchïo yn ein cred mai dim ond y gorau fydd yn cael ei weini i'n gwesteion a'n nod yw rhoi profiad bwyta gwirioneddol gofiadwy i chi.
Llandudno
Gydag awyrgylch cyfeillgar a bwyd gwych, stêcs wedi'u grilio, byrgyrs a llawer mwy mewn steil nodweddiadol Bar a Gril Efrog Newydd.
Llandudno
Bwydlen helaeth o brydau Cantoneg, a rhywfaint o brydau Siapaneaidd, sy’n cael eu gweini mewn awyrgylch ymlaciol.
Trefriw
Bwyty lleol wedi’i leoli yn Nhrefriw, Gogledd Cymru. Oedolion yn unig.
Penrhyn Bay
Mae’r café-bar wedi’i leoli reit gyferbyn â’r traeth ym Mae Penrhyn. Rydym ni ar agor ar gyfer brecwast, cinio, byrbrydau, crempogau, te prynhawn a choffi, ond mae ein bar ar agor bob amser os mai diod rydych chi ei awydd.
Llandudno
Y Kings Head yw’r dafarn hynaf yn Llandudno. Rydym yn agos at yr orsaf dramiau ac mae ein gardd gwrw yn llygad yr haul.
Abergele
Mae cyfuniad modern o fwyd Cantoneg, Siapaneaidd, Thai a Malaysia yn aros amdanoch yn Sakura.
Conwy
P'un a ydych chi'n dod i mewn am goffi neu frecwast i fynd, cinio gyda'r teulu, neu de prynhawn gyda'ch ffrindiau, mae gan L's fwydlen wych o fwyd a diod i'ch denu ar unrhyw adeg o’r dydd.