Nifer yr eitemau: 132
, wrthi'n dangos 121 i 132.
Llanrwst
Rydym ni’n fwyty a lleoliad bwyd i fynd Bangladeshi traddodiadol sydd wedi ennill gwobrau ac wedi'n lleoli yng Ngogledd Cymru, rydym yn ymfalchïo wrth gyflwyno ein cyfeillion Ewropeaidd i fwydydd o isgyfandir India sy’n tynnu dŵr i’r dannedd.
Conwy
Cwmni da, bwyd gwych, golygfeydd gwych - Mae ein tafarn deuluol, sydd wedi'i hadnewyddu i’r dim, yn cynnig croeso cynnes i bawb.
Rhos-on-Sea
Deli a siop deisennau sydd wedi’i leoli yn nhref hyfryd arfordirol Llandrillo-yn-Rhos.
Conwy
Wedi’i leoli yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy, mae Cantîn yn gweini coffi, brecwast, cinio, cacennau a mwy!
Llandudno
Parlwr hufen iâ llwyddiannus â dewis o 33 blas, sydd hefyd yn gweini waffls, crempogau a diodydd poeth ffres, lathenni o Draeth y Gogledd, Llandudno.
Llandudno
Yn Ristorante Romeo rydym ni’n cynnig bwydlen helaeth Eidalaidd gan ddefnyddio’r cynhwysion gorau a mwyaf ffres yn lleol yn ogystal â chael eu mewnforio’n uniongyrchol o’r Eidal.
Colwyn Bay
Siop pysgod a sglodion traddodiadol gyda chyfleuster bwyd i fynd a bwyty trwyddedig.
Conwy
Profiad bwyta Tsieineaidd unigryw a chyfoes yn Neganwy, Gogledd Cymru, yn darparu ar gyfer pob achlysur mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol.
Llandudno Junction
Coffi, te dail, cacennau ffres a llawer mwy ar gael i fynd o’n tŷ te a choffi yng Nghyffordd Llandudno.
Llandudno
Bwyty diweddaraf byd coginiol Gogledd Cymru. Mae’n ofod ffres a thrawiadol lle cewch chi fwynhau ansawdd ac ystryw ciniawa coeth heb yr holl ffaff a ffurfioldeb.
Rhos-on-Sea
Tafarn a bwyty ar lan y môr sy’n croesawu cŵn a phlant, gyda gardd gwrw fawr yn Llandrillo-yn-Rhos yn gweini bwyd tafarn ffres, blasus.
Llandudno
Mae Providero yn siop goffi arbenigol sydd dafliad carreg i ffwrdd o’r Gogarth yn Llandudno. Mae’n ganolbwynt cyfeillgar i bobl leol ac ymwelwyr ac yma fe weinir coffi, cacennau a chinio ysgafn tymhorol o ansawdd uchel.