Nifer yr eitemau: 132
, wrthi'n dangos 21 i 40.
Llandudno
Wedi’i enwi ar ôl yr impresario theatr lleol Will Catlin, dyma’r lle perffaith i ymlacio a dadflino.
Llandudno
Mae Caffi Dewi yn lle croesawgar a chyfeillgar i fwynhau bwyd cartref blasus. Rydym ni ddau funud ar droed o draeth Penmorfa. Mae’r holl elw yn mynd at ofalu am gleifion Hosbis Dewi Sant.
Llanfair Talhaiarn
I brofi’r dafarn goetsys draddodiadol orau, yna rhowch gynnig ar y Black Lion, Llanfair Talhaiarn.
Colwyn Bay
Beth am ymweld â ni yn ein siop ym Mae Colwyn lle gallwch brynu ein bara, cacennau a brechdanau ffres.
Llandudno
Bwyty Groegaidd a chyfleuster bwyd i fynd teuluol sy’n gweini bwyd Groegaidd cartref modern a thraddodiadol.
Penrhyn Bay
Wedi’i leoli ym Mae Penrhyn, mae Home from Home yn fwyty lleol annibynnol sydd yn cynnig croeso cynnes mewn lleoliad cyfoes, sy’n cael ei yrru gan angerdd am fwyd da a gwasanaeth cyfeillgar.
Llandudno
Rydyn ni’n gaffi cyfeillgar wedi’i leoli ar Clonmel Street, ddim yn bell o’r môr yn nhref glan môr hardd Llandudno.
Colwyn Bay
Caffi yng nghanol Bae Colwyn sydd yn cynnig coffi gwych a bwyd hyfryd, yn cynnwys dewisiadau llysieuol a heb glwten.
Kinmel Bay
Ym Mwyty Lolfa Lucknow rydym yn gwneud bwyd ffres ac yn ymfalchïo ynddo, gan ddarparu ar gyfer pawb sy'n mwynhau danteithion coginiol Indiaidd.
Conwy
Yng nghanol Conwy, mae Pen-y-Bryn yn adeilad traddodiadol o’r unfed ganrif ar bymtheg.
Conwy
Yn sefyll allan yng Nghonwy mae ein bwyty wedi’i addurno a’i ddodrefnu’n glasurol ac wedi’i leoli ar lawr cyntaf adeilad rhestredig Gradd II sy’n dyddio o’r 1800au.
Cerrigydrudion
Mewn lleoliad uchel perffaith, y peth cyntaf fyddwch yn sylwi arno wrth gerdded i mewn i Gaffi Llyn Brenig yw’r golygfeydd godidog o’r llyn ac ar draws Mynydd Hiraethog.
Penmaenmawr
Tafarn wledig draddodiadol gyda chroeso cynnes Cymreig yng nghanol Dwygyfylchi.
Conwy
Wedi’i leoli yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy, mae Cantîn yn gweini coffi, brecwast, cinio, cacennau a mwy!
Llandudno
Mae croeso cynnes yn aros amdanoch yn Forte’s Restaurant - Mae’r awyrgylch yn gynnes a chroesawgar ac rydym ni’n gwarantu gwasanaeth gyda gwên ond yr un mor bwysig rydym ni’n gweini bwyd ffres a blasus.
Llandudno
Mae Dinos Llandudno yn frwd dros ddarparu bwyd blasus o safon uchel.
Colwyn Bay
Dafliad carreg o’r môr a thraeth hyfryd Porth Eirias y mae bistro Bryn Williams. Mae’r fwydlen yn llawn cynnyrch Cymreig sydd wedi cael ei gynhyrchu mor lleol â phosibl.
Colwyn Bay
Mae Simon a Nina Cole yn eich croesawu i The White Lion Inn, Llanelian-yn-Rhos, y tu allan i Fae Colwyn; tafarn gastro a bwyty gwledig hanesyddol sy’n cael ei redeg gan deulu ac yn llai na 5 munud o’r A55.
Llandudno
Parlwr hufen iâ yng nghanol Llandudno. Caiff yr holl hufen iâ ei baratoi’n fewnol gan ddefnyddio cynhwysion lleol i greu’r cynnyrch mwyaf ffres, a blasus.