Am
Mae gwely a brecwast Bryn Derwen mewn lleoliad delfrydol ar dir gwastad wrth droed y Gogarth ar rodfa goediog ddistaw rhwng dau fae Llandudno. Mae’n daith gerdded rwydd i bromenâd y gogledd a’r dref lle bydd digonedd o fariau, bwytai a siopau yn eich haros. Mae Pen Morfa yn bromenâd distawach lle gallwch fwynhau golygfeydd tuag at Gonwy ac Eryri.
Mae’r llety gwely a brecwast hwn yn dy cain a adeiladwyd yn wreiddiol fel cartref gwyliau gan deulu Fictoraidd cyfoethog ym 1878, mae wedi’i drawsnewid yn ofalus a’i ddiweddaru i gynnal y cymeriad a’r nodweddion gwreiddiol. Mae gan Bryn Derwen awyrgylch hamddenol, cyfeillgar ac unigryw.
Gall gwesteion fwynhau lolfa gyda thân agored, atriwm gwydr a gardd gefn furiog hardd ac ardal batio gydag ystafell ardd gyfforddus wrth ddarllen neu fwynhau diod o’r bar trwyddedig. Mae’r ystafell frecwast hyfryd a helaeth yn edrych dros yr ardd ffrynt liwgar ac mae gan bob gwestai eu byrddau unigol eu hunain. Gellir darparu ar gyfer anghenion deietegol a dewisiadau gan fod brecwast yn cael ei goginio'n ffres yn ôl yr archeb.
Mae gan y Bryn Derwen risiau cain prydferth sy’n arwain at naw ystafell wely en-suite a phob un wedi eu dylunio'n unigol gyda'r holl gyfleusterau y byddech yn eu disgwyl mewn eiddo gwely a brecwast pum seren. Mae detholiad da o ystafelloedd dwbl safonol, ystafelloedd dwbl mawr/maint brenin ac ystafelloedd pâr.
Mae lleoliad Bryn Derwen yn cynnig parcio stryd heb gyfyngiad ac mae hefyd yn cynnwys maes parcio am ddim yn y cefn. Mae hefyd garej diogel ar gyfer beiciau a beiciau modur.
Mae’r perchnogion Mark a Lyn wedi magu enw da am wasanaeth o'r radd flaenaf ac am safon ei lendid ac edrychwn ymlaen at eich croesawu chi'n fuan.
Pris a Awgrymir
- Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
- 9
| Ystafell / Uned Math | Ystafell / Uned Tariff* |
|---|---|
| Ystafell Ddwbl | £120.00 yr ystafell (brecwast yn gynwysedig) |
| Ystafell Sengl | £85.00 yr ystafell (brecwast yn gynwysedig) |
| Ystafell Twin | £125.00 yr ystafell (brecwast yn gynwysedig) |
*Prices start from £90.00 - £135.00 per night including breakfast and free parking
Cyfleusterau
Arall
- Ardaloedd a ddarperir ar gyfer smygwyr
- Cyfleusterau gwneud te/coffi mewn ystafelloedd gwely
- Darperir ar gyfer dietau arbennig
- Parcio preifat
- Rhyngrwyd di-wifr
- Sefydliad hollol ddi-ysmygu
- Seibiannau byr ar gael
- Teledu yn yr ystafell wely/uned
- Trwyddedig
Cyfleusterau Darparwr
- Wifi ar gael
Dulliau Talu
- Derbynnir cardiau credyd
Parcio a Thrafnidiaeth
- Gwefrwyr Cerbydau Trydan (ar y safle)
TripAdvisor

- Service
- Value
- Cleanliness
- Location
- Ardderchog270
- Da iawn8
- Gweddol0
- Gwael0
- Ofnadwy0
i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.





