Am
City Sightseeing, Llandudno a Chonwy. Mae’r bws deulawr pen agored yma, lle gellwch deithio fel y mynnoch, yn defnyddio dau fersiwn o fws. Mae gennym bellach fws sydd â phen hollol agored ar gyfer y diwrnodau hynny pan fo’r haul yn tywynnu, a fersiwn gyda tho clir pan fo tywydd garw.
Mae trefi arfordirol braf Llandudno a Chonwy wedi’u lleoli rhwng dau draeth hyfryd ac mae llawer o gymeriad oes Fictoria’n dal i berthyn iddynt. Yno, fe gewch chi fwynhau golygfeydd arbennig o’r Gogarth, y Pier, Castell Conwy a’r wlad o’ch cwmpas.
Camwch ar y bws gyda’ch tocyn 24 awr a mwynhewch olygfeydd panoramig o lawr uchaf bws pen agored wrth i chi ymlwybro drwy’r ddwy dref. Gadewch i City Sightseeing dynnu’ch sylw at yr holl bethau sydd i’w gwneud a’u gweld yn y ddwy dref glan môr.
Mae taith yn Llandrillo-yn-Rhos bellach ar gael.
Archebwch ar-lein yn: https://alpine.palisis.com/.
Pris a Awgrymir
Gweler y wefan am fanylion pellach.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Darparwyr
- Derbynnir Cw^n
Dulliau Talu
- Cyfraddau arbennig i grwpiau
- Derbynnir Grwpiau
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Caniateir Cw^n Cymorth
Marchnadoedd Targed
- Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored
- Mewn tref/canol dinas
Teithiau ac Arddangosiadau
- Derbynnir Ymweliadau Addysgiadol
- Teithiau Tywysedig ar gael i Grwpiau
- Teithiau Tywysedig ar gael i Unigolion
Teithio a Masnachu
- Disgownt ar gael ar gyfer grwpiau
TripAdvisor
Sgôr Teithwyr TripAdvisor:
- Ardderchog148
- Da iawn75
- Gweddol23
- Gwael15
- Ofnadwy12