Am
Mae Parc Carafanau Craiglwyd Hall ar lechwedd â golygfeydd godidog dros Ynys Môn a Llandudno. Dyma’r parc i’w ddewis os ydych chi’n chwilio am dawelwch a llonyddwch mewn lleoliad anhygoel, ond hefyd os hoffech fod yn agos i’r trefi glan môr a holl brif atyniadau eraill Gogledd Cymru.
Craiglwyd Hall oedd y parc cyntaf a brynodd y teulu Thornley yn ôl yn 1961. Mae gan Craiglwyd Hall lolfa braf iawn, bar chwaraeon, ystafell gemau teulu a theras awyr agored. Dyma’r lle perffaith i ymlacio a gwylio’r haul yn machlud dros Ynys Seiriol. Mae gan y parc ardal chwarae i blant ac ystafell gemau hefyd.
Dyma barc arbennig ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri sydd wedi ennill nifer o wobrau ac mae yn y lle perffaith i westeion allu mwynhau’r atyniadau a’r ardaloedd hardd sydd o’i amgylch. Os ydych chi’n un am bysgota, mae Pysgodfa Frithyll Graiglwyd Springs yn llythrennol y drws nesaf i’r parc.
Mae gan Barc Carafanau Craiglwyd Hall garafanau gyda thwb poeth, carafanau sy’n addas ar gyfer cŵn a rhandai moethus ar gael i’w llogi.
Yn un o ardaloedd mwyaf poblogaidd Gogledd Cymru, mae’r parc carafanau hwn yng Nghonwy mewn ardal dawel a heddychlon gyda hanes a gweithgareddau awyr agored ar hyd yr arfordir cyfan. Does dim llawer o safleoedd carafanau gwell ger Conwy, ac mae’r cyfan yn aros amdanoch.
Mae ymdeimlad cymunedol braf ac awyrgylch groesawgar ym mharc carafanau Craiglwyd Hall, ble gallwch ymlacio yn y lleoliad hardd hwn. Gydag ardal chwarae, campfa ac ystafell gemau, mae digon o hwyl i’w gael o gwmpas y safle. Ar ddiwedd diwrnod o greu atgofion newydd, gallwch ymlacio gyda golygfeydd godidog o Ynys Seiriol, Llandudno ac Ynys Môn o’ch carafán.
Pris a Awgrymir
- Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
- 14
Ystafell / Uned Math | Ystafell / Uned Tariff* |
---|---|
Fesul uned yr wythnos | o£526.00 i £850.00 fesul uned yr wythnos |
*O £526.00 i £850.00 yr uned yr wythnos.
Cyfleusterau
Arall
- Areas provided for smokers
- Bed linen available for hire
- Bed linen provided
- Car Charging Point
- Children's play area
- Credit cards accepted
- Ground floor bedroom/unit
- Gwres canolog
- Licensed
- Parcio preifat
- Pets accepted by arrangement
- Regular evening entertainment
- Short breaks available
- TV in bedroom/unit
- Washing machines available on-site
- Wireless internet
Cyfleusterau Darparwyr
- Children's facilities available
- Wifi ar gael
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn
- Trwyddedig
Nodweddion Ystafell/Uned
- Gwres canolog ym mhob uned
Plant a Babanod
- Cyfleusterau i blant
TripAdvisor
Sgôr Teithwyr TripAdvisor:
- Service
- Value
- Cleanliness
- Location
- Ardderchog39
- Da iawn7
- Gweddol0
- Gwael2
- Ofnadwy2