Am
Yn gorwedd ym mhentref hyfryd Rowen yng nghefn gwlad Eryri, mae Tŷ Pandy’n cynnig y cyfuniad perffaith o gysur, ceinder a harddwch naturiol. Mae ein bwthyn hunanarlwyo moethus yn cynnig dihangfa heddychlon i deuluoedd, cyplau a chriwiau. P’un a ydych chi’n chwilio am anturiaethau awyr agored neu wyliau i ymlacio, Tŷ Pandy yw’r lle delfrydol i ddadflino a chael hoe fach.
Yn Tŷ Pandy, rydyn ni’n falch o gynnig lletygarwch heb ei ail. Drwy roi sylw i’r manylion a chanolbwyntio ar ragoriaeth, rydyn ni’n sicrhau y bydd eich cyfnod yma’n un cyfforddus a chofiadwy. Dewch i ddarganfod hud Parc Cenedlaethol Eryri a’i holl lwybrau cerdded trawiadol, safleoedd hanesyddol a diwylliant lleol bywiog, sydd i gyd yn agos iawn at ein bwthyn.
Rydyn ni 10 munud o dref hanesyddol Conwy ac i rai sydd ddim eisiau mynd yn rhy bell, mae tafarn gartrefol Tŷ Gwyn yn y pentref yn cynnig bwyd, diodydd a chanu Cymraeg.
Mae eich antur bythgofiadwy chi’n cychwyn yma.
Pris a Awgrymir
- Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
- 1
Ystafell / Uned Math | Ystafell / Uned Tariff* |
---|---|
Ty Gwyliau | o£3,183.60 i £6,300.00 fesul uned yr wythnos |
*Yn cysgu 8 oedolyn a 2 blentyn ynghyd ag 1 gwely ci ac 1 gwely crud
Cyfleusterau
Arall
- Bed linen provided
- Car Charging Point
- Children's play area
- Gwres canolog
- Parcio preifat
Cyfleusterau Darparwyr
- Children's facilities available
- Pets accepted by arrangement