Am
Antur i’r teulu cyfan! Gwyliwch y ras foch, dewch i gyfarfod ein hymlusgiaid a chyfarfod cwningod del yn y Gornel Gwtsho! Cerddwch ar hyd Lwybr y Caeau i fwydo’r anifeiliaid fferm mwy sydd gennym. Yn aml, mae anifeiliaid bach i’w gweld, yn cynnwys ŵyn, mynnod geifr, moch bach a chywion.
Llosgwch rywfaint o egni ar ein traciau go-certi pedlo ac yn y castell dringo a’r gwahanol ardaloedd chwarae eraill yn yr awyr agored. Dydy ychydig o law ddim am stopio’r hwyl – gallwch fwynhau ein hardal chwarae meddal, y dref fach a’r ardal jac-codi-baw.
NEWYDD ar gyfer 2025 – Llwybr Antur Deinosoriaid! Cerddwch gyda chewri’r cyfnod Jwrasig a’u gwylio’n symud ac yn rhuo! Mae dros 20 i’w gweld, gan gynnwys y T-Rex nerthol, y Braciosor tal, a chriw o Reibwyr.
Does dim angen dod â phicnic – mae cinio ar gael o gwt bwyd y Greedy Goat. Mae’r dewisiadau ar y fwydlen yn cynnwys paninis blasus, tatws pob llwythog a phitsas. Mae bocsys picnic i blant hefyd ar gael.
Mae’r calendr digwyddiadau’n llawn dop, felly cofiwch edrych beth sydd ar y gweill cyn ymweld! Gallwch arbed arian wrth archebu tocynnau ymlaen llaw ar-lein.
Pris a Awgrymir
Amser mynediad olaf am 3pm
*Gall prisiau amrywio - ewch i'r gwefan am fanylion
Cyfleusterau
Cyfleusterau Darparwyr
- Toiledau
Hygyrchedd
- Caniateir Cw^n Cymorth
- Lleoedd Parcio i Ymwelwyr Anabl
- Toiledau ar gyfer Ymwelwyr Anabl
Marchnadoedd Targed
- Hwyl i'r Teulu
- Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
- Maes parcio
TripAdvisor

- Ardderchog670
- Da iawn48
- Gweddol14
- Gwael16
- Ofnadwy14