Pâr yn eistedd yn Nhwyni Kinmel gyda'r môr yn y cefndir

Am

Mae Twyni Cinmel yn rhoi cyfle i chi gerdded neu feicio drwy system dwyni tywod weithredol gan ddilyn y llwybrau. Yn flaenorol roedd gan arfordir Gogledd Cymru ardaloedd mawr o dwyni tywod sydd bellach wedi’u symud ar gyfer datblygiadau trefol. Mae’r enghreifftiau o dwyni sy’n weddill ym Mae Cinmel bellach yn Warchodfa Natur Leol.

Mae Twyni Cinmel yn gartref i nifer o blanhigion morol brodorol fel celyn y môr deniadol, pys ceirw eiddilaidd a thag yr aradr. Weithiau, gellir gweld morloi llwyd yn agos at y lan ac mae’r adar sydd i’w gweld yn cynnwys yr ehedydd, y cudyll coch a'r cwtiad torchog. Gallwch ddysgu mwy ar y safle trwy ddarllen y paneli gwybodaeth sydd ar gael.

Mae mynediad yn bosibl gyda chadair olwyn ar hyd y promenâd a hefyd ar hyd llwybrau sy'n arwain tua'r dwyrain trwy'r warchodfa.

Mae gan yr ardal draethau tywodlyd helaeth sy’n boblogaidd yn yr haf gyda phobl sydd eisiau torheulo neu adeiladu cestyll tywod, ond mae hefyd yn lle gwych i orffwys wrth gerdded ar hyd Llwybr Gogledd Cymru neu wrth fynd ar hyd Llwybr Beicio Cenedlaethol 5. O Dwyni Cinmel ceir golygfeydd gwych allan i'r môr ac ar ddiwrnod clir gellir gweld Ynys Manaw ac Ardal y Llynnoedd. Mae nifer o giosgau promenâd ar agor yn yr haf sy’n cynnig lluniaeth ac offer traeth. Hefyd, mae mannau parcio am ddim a mannau storio beiciau yma hefyd.

Does dim achubwr bywydau ar y traeth.

A chofiwch, plîs peidiwch â bwydo’r gwylanod!

Cŵn ar y traeth

Gall dod â’ch ci i’r traeth fod yn uchafbwynt mawr i chi a’ch anifeiliaid anwes. Rydym ni’n eich annog i sicrhau bod eich ci dan reolaeth drwy’r amser, ar ac oddi ar y tennyn, a bod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau sydd mewn grym ar rai o’n traethau.

Yn gyffredinol, mae traethau’n gwahardd cŵn (heb law am gŵn tywys cofrestredig a chŵn cymorth wedi’u hyfforddi) rhwng 1 Mai a 30 Medi, ond mae rhai’n gwahardd cŵn drwy’r flwyddyn ac eraill heb unrhyw gyfyngiadau o gwbl i fwynhau am dro ar lan y môr gyda’ch anifeiliaid anwes.

Rydym ni’n gofyn i chi godi baw eich ci bob tro gan ei bod yn drosedd peidio â’i lanhau ar unwaith.

I gael mwy o wybodaeth am y cyfleusterau sydd ar gael ymhob traeth, gweler wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Cyfleusterau

Marchnadoedd Targed

  • Hwyl i'r Teulu
  • Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd

Nodweddion Darparwr

  • Atyniad Awyr Agored
  • Croesawgar i gŵn

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Maes parcio

TripAdvisor

Map a Chyfarwyddiadau

Twyni Cinmel

Glan y môr

St Asaph Avenue North, Kinmel Bay, Conwy, LL18 5EQ

Beth sydd Gerllaw

  1. Mae Traeth Sandy Cove, Bae Cinmel, yn draeth tywodlyd sy’n wynebu'r gogledd gyda…

    0.25 milltir i ffwrdd
  2. Am rywbeth ychydig yn wahanol beth am y wefr o rasio harnes arddull Americanaidd yn Nhir…

    0.7 milltir i ffwrdd
  3. Wedi bod yn dod â hwyl a chwerthin i wyliau’r haf ers dros 50 mlynedd, mae Knightly’s…

    1.06 milltir i ffwrdd
  4. Wedi ei leoli yn agos at y traeth yn Abergele, mae Parc Pentre Mawr yn barc trefol…

    3 milltir i ffwrdd
  1. Mae’r traeth cerrig mân hyfryd hwn gyda’i bromenâd, yn wych ar gyfer cerdded yn hamddenol…

    3.04 milltir i ffwrdd
  2. Arcêd Adloniant a chanolfan adloniant i deuluoedd ar y promenâd yn Abergele.

    3.6 milltir i ffwrdd
  3. Plasty Gradd I rhestredig yng Ngogledd Cymru yw Castell Gwrych a adeiladwyd ddechrau’r…

    4.07 milltir i ffwrdd
  4. Antur i’r teulu cyfan! Gwyliwch y ras foch, dewch i gyfarfod ein hymlusgiaid a chyfarfod…

    4.11 milltir i ffwrdd
  5. Fe ganfyddwch lwybrau gwasgaredig o dywod a cherrig crynion ar hyd y rhan hon o’r traeth…

    5.03 milltir i ffwrdd
  6. Mae Mynydd Marian yn gefnen fechan o garreg galch sydd â golygfeydd godidog o’r arfordir…

    6.1 milltir i ffwrdd
  7. Mae’r Glyn yn Warchodfa Natur Leol a choetir hynafol. Mae’r llwybrau coediog drwy’r…

    7.54 milltir i ffwrdd
  8. Bellach gall ymwelwyr i Fae Colwyn fwynhau traeth tywodlyd eang Porth Eirias a mwynhau…

    8.08 milltir i ffwrdd
  9. Wedi ei leoli ym Mae Colwyn, gyda hanner can erw o barcdir prydferth, Parc Eirias ydi…

    8.16 milltir i ffwrdd
Previous Next

Gwelwyd yn Ddiweddar

Cynnyrch

  1. Gerald Dewsbury a Kim Dewsbury yn Oriel Ffin y Parc, Llandudno

    Math

    Arddangosfa

    Mae Oriel Ffin y Parc yn cynnal arddangosfeydd sy’n newid gan rai o’r artistiaid gorau sy’n…

  2. Llwyn Onn Guest House and Glamping

    Math

    Glampio

    Located in a peaceful rural haven, Llwyn Onn is surrounded by rolling farmland, breathtaking…

  3. SF Parks

    Math

    Parc Gwyliau

    Mae Parciau SF yn cyflwyno’u parciau cyffiniol, Canolfan Golden Gate Holiday a Pharc Hamdden…

  4. Canolfan Hamdden John Bright

    Math

    Canolfan Chwaraeon/Hamdden

    Mae Canolfan Hamdden John Bright wedi'i lleoli wrth ymyl yr ysgol uwchradd yn Llandudno. Mae'n…

  5. FIVE

    Math

    Tecawê

    Bwyd cyflawn, salad a bar coffi yng nghanol tref gaerog ganoloesol Conwy.

  6. Siop Goffi a Llyfrau L's

    Math

    Ystafell De/Siop Goffi

    Mae Siop Goffi a Llyfrau L’s mewn lleoliad gwych, hanner ffordd i fyny ochr chwith y Stryd Fawr,…

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....