Am
AquaTour – Anturiaethau cychod cyflym RIB o Gonwy
Paratowch i brofi’r antur eithaf gydag AquaTour – prif ddarparwr teithiau cychod RIB cyffrous ar hyd arfordir anhygoel gogledd Cymru. Gan adael harbwr canoloesol hardd Conwy mae AquaTour yn cynnig teithiau cyflym cyffrous, teithiau bywyd gwyllt a theithiau golygfaol ar hyd yr arfordir sy’n berffaith ar gyfer teuluoedd, cyplau ac anturiaethwyr o bob oed.
Mae ein teithiau cyffrous ar gychod RIB yn mynd â chi ar antur fythgofiadwy drwy ardaloedd mwyaf syfrdanol y DU sy’n llawn bywyd gwyllt, yn cynnwys Ynys Seiriol, y Gogarth, Bae Colwyn ac Afon Menai.
Pa un ai ydych chi’n chwilio am daith ar gwch cyflym, cyfle i weld morloi, palod, llamidyddion ac adar y môr neu ddarganfod ogofau cudd a hanesion am longddrylliadau ac arwyr arfordirol, mae gan AquaTour y daith berffaith i chi.
Pam dewis AquaTour?
- Gwylio bywyd gwyllt: Morloi, palod, bilidowcars, llamidyddion a mwy
- Teithiau cyflym cyffrous a hwyl yn hwylio tonnau’r dŵr agored
- Teithiau tywys ar hyd yr arfordir gyda sylwebaeth ddiddorol ac addysgiadol
- Teithiau i Ynys Seiriol, y Gogarth, Afon Menai a thu hwnt
- Gadael Cei Conwy – ychydig funudau o’r A55
Mae pob taith yn cael ei harwain gan gapteiniaid profiadol sy’n adnabod yr arfordir fel cefn eu llaw ac yn frwdfrydig dros arddangos gogledd Cymru o safbwynt gwahanol. Mae ein cychod RIB yn gyflym, yn ddiogel ac yn gyfforddus – ac rydym ni’n darparu’r holl offer diogelwch, yn cynnwys dillad glaw a siacedi achub.
Mae ein teithiau mwyaf poblogaidd yn para oddeutu 1 awr ond mae gennym ni hefyd brofiadau hirach a chychod hurio preifat ar gyfer grwpiau, pen-blwyddi, achlysuron arbennig a ffilmio a ffotograffiaeth. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am deithiau a digwyddiadau arbennig yn ystod y tymor.
Archebwch ar-lein heddiw
Yn berffaith ar gyfer ymwelwyr i Eryri, Conwy, Llandudno, Ynys Môn a’r ardaloedd cyfagos, mae AquaTour yn un o’r darparwyr gweithgareddau awyr agored gorau yng ngogledd Cymru. Archebwch eich taith mewn cwch ar-lein heddiw a chadw’ch sêt ar antur fythgofiadwy ar y dŵr.
Ewch i www.aquatour.co.uk neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol @AquatourOfficial i wirio amseroedd, argaeledd a’r cynigion diweddaraf.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Darparwyr
- Gwersi/cyrsiau ar gael
- Hyfforddwyr cymwys
- Yn darparu ar gyfer digwyddiadau Corfforaethol
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd