Gwyliau Sunset and Stars

Am

Mae’n bleser gennym gynnig dewis gwych o lety o ansawdd, sy’n cynnwys bwthyn gwyliau hyfryd a chwt bugail moethus – a’r ddau mewn lleoliad cyfleus i fwynhau holl brif atyniadau’r gogledd. Perffaith ar gyfer cerddwyr a beicwyr, a theuluoedd sy’n chwilio am wyliau ymlaciol.

Mae’r bwthyn gwyliau yn olau ac mewn lle tawel a gwledig gyda golygfeydd gwych. Ni chaniateir anifeiliaid anwes, a rhwng y ddwy ystafell wely mae yna le i 5 gysgu (gwely dwbl, gwely maint brenin a gwely sy’n plygu). Gyda’r holl foethusrwydd cartref arferol, mae’r olygfa yn fendigedig drwy’r ffenestri mawr yn y lolfa a’r ystafell wely. Mae’r gegin yn cynnwys popeth sydd arnoch chi eu hangen, a ‘range’ tan agored.

Mae yna ardd fawr a phatio yn y cefn, gyda bwrdd a chadeiriau a barbeciw nwy, yn ogystal â thŷ haf mawr – y lle perffaith ar gyfer diwrnodau a nosweithiau braf yr haf neu rywle i blant yn eu harddegau dreulio eu hamser. Mae gan Sunsets and Stars Cottage 42 o adolygiadau ar Airbnb a phob un yn rhoi 5 seren i’r bwthyn; ac mae’r bwthyn hefyd wedi derbyn 5 seren gan Groeso Cymru yn ddiweddar. Fe ddywedodd un gwestai nad oes digon o sêr i ddisgrifio ei gwyliau.

Mae’r cwt bugail, gyda chegin ac ystafell ymolchi integredig, wedi’i leoli mewn padog ar y fferm yn y bryniau uwchlaw Conwy. Mae’r golygfeydd o’r cwt bugail yn hyfryd, ac mae’r Carneddau i’w gweld yn braf dros y bryniau. Gyda llwybrau hyfryd drwy’r caeau, golygfeydd panoramig, lonydd gwledig tawel a nant fyrlymus yn y coed, mae yna ddigon o ddewisiadau i fynd am dro.

Mae’r cwt bugail yn cynnwys gwely dwbl a gwely bync ar gyfer ffrindiau. Er bod y cwt bugail yn eang, rydym ni’n cynghori nad oes mwy na dau oedolyn ac un plentyn yn aros ynddo. Ni chaniateir anifeiliaid anwes.

Dyma’r lleoliad perffaith i archwilio gogledd Cymru. Mae hefyd yn lle gwych os oes arnoch chi eisiau ymlacio a chael ychydig o lonydd. Pa un ai ydych chi’n eistedd tu allan wrth y tân neu’n swatio dan do wrth y ffenestr, mae’r machlud haul yn fendigedig. Rydym ni’n cynnig croeso cynnes ac mae arnom ni eisiau i bawb gael amser da. I’r perwyl hwnnw, gallwn hefyd gynnig cyffyrddiadau bach ychwanegol. Felly ewch ati heddiw i archebu eich gwyliau, a gadewch i ni edrych ar eich ôl chi. “Gwych, gwych, gwych!! Does dim angen meddwl dwywaith cyn archebu!”

Pris a Awgrymir

Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
2
Ystafell / Uned MathYstafell / Uned Tariff*
Bwythyno£756.00 i £875.00 fesul uned yr wythnos
Cwt Bugeiliaid ( lleiafswm o 2 noson)o£108.00 i £125.00 fesul uned y noson

*Fel canllaw, rhoddir prisiau fesul ystafell fesul noson ar gyfer gwestai, gwestai bach, gwely a brecwast, fflatiau â gwasanaeth a fesul wythnos am lety hunanddarpar.

Noder: Canllaw yn unig yw'r prisiau a gallant newid yn ddyddiol.

Cyfleusterau

Arall

  • Bed linen provided
  • Central heating
  • Private Parking
  • Short breaks available
  • Washing machines available on-site
  • Wireless internet

TripAdvisor

Map a Chyfarwyddiadau

Sunsets and Stars Holidays

5 Sêr Croeso Cymru 5 Sêr Croeso Cymru 5 Sêr Croeso Cymru 5 Sêr Croeso Cymru 5 Sêr Croeso Cymru 5 Sêr Croeso Cymru
Cae'r Gnocell, Glan Conwy, Conwy, LL28 5PW

Ffôn: 07901867007

Amseroedd Agor

Agored drwy'r flwyddyn (1 Ion 2024 - 31 Rhag 2024)

* Mae amser cyrraedd fel arfer am 4pm a gwirio allan am 10am ond efallai y bydd modd gwneud trefniadau eraill.

Graddau

  • 5 Sêr Croeso Cymru
  • Listed/Verified Accommodation Visit Wales
5 Sêr Croeso Cymru Listed/Verified Accommodation Visit Wales

Beth sydd Gerllaw

  1. Yn ymestyn dros 80 erw ac â mwy na 250 o flynyddoedd o hanes garddwriaethol, mae Gardd…

    1.83 milltir i ffwrdd
  2. Mae gwarchodfa natur RSPB Conwy yn wlypdir ar lan ddwyreiniol aber Conwy, a grëwyd o…

    2.9 milltir i ffwrdd
  3. Mae Colin a Charlotte yn eich gwahodd chi i ymuno â nhw ar gyfer profiad gwinllan unigryw…

    3.04 milltir i ffwrdd
  4. Mae'r coetir amlwg hwn sy’n ymestyn ar draws y llethrau uwchben a’r tu ôl i dref Bae…

    3.24 milltir i ffwrdd
  1. Mae’r gerddi hardd sy’n gartref i'r sŵ cadwraethol, gofalgar hwn wedi’u lleoli yn uchel…

    3.24 milltir i ffwrdd
  2. Cerddwch dros yr Afon Conwy ar Bont Grog Thomas Telford, gyda golygfa o Gastell Conwy,…

    3.48 milltir i ffwrdd
  3. Wedi ei leoli ym Mae Colwyn, gyda hanner can erw o barcdir prydferth, Parc Eirias ydi…

    3.52 milltir i ffwrdd
  4. Darganfyddwch sut datblygodd Bae Colwyn a dysgwch fwy am dreftadaeth hanesyddol a…

    3.52 milltir i ffwrdd
  5. Pan adeiladodd y Brenin Edward I Gastell Conwy ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg y…

    3.53 milltir i ffwrdd
  6. Mae Theatr Colwyn yn theatr a sinema hanesyddol sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i…

    3.54 milltir i ffwrdd
  7. Yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sy’n cynnwys cestyll ysblennydd ym Miwmares,…

    3.57 milltir i ffwrdd
  8. Neidiwch ar fwrdd y Queen Victoria am fordaith i weld golygfeydd i fyny’r afon Conwy tuag…

    3.58 milltir i ffwrdd
  9. Ar lan afon Conwy, ger Castell Conwy, mae Amgueddfa Cregyn Gleision Conwy yn llawn hanes…

    3.6 milltir i ffwrdd
  10. Lawrlwythwch y daflen hon am ddim a dechrau eich antur 80 munud drwy un o'r trefi…

    3.62 milltir i ffwrdd
Previous Next

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....