I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Uchafpwyntiau'r Gaeaf yng Nghonwy
Wyth rheswm pam fod y gaeaf yn adeg gwych i ymweld â Sir Conwy
Ar ôl ychydig o rew a mymryn o eira, mae ein cefn gwlad godidog yn cael ei drawsnewid yn ryfeddod gaeafol. Beth bynnag fo’r tywydd, mae yna wastad ddigonedd i’w wneud. Mae hwn yn amser gwych ar gyfer gwyliau llawn hwyl i’r teulu neu seibiant bach rhamantus gyda digon o ddiwylliant, gweithgareddau a bwyd da i’w fwynhau.
1. Bydd eich ci wrth ei fodd gyda’n teithiau cerdded arfordirol a gwledig
Efallai fod y gaeaf yn amser tawel i natur, ond i gŵn, mae hwn yn amser ar gyfer rhyddid a chael hwyl. P'un a ydyn nhw’n rhedeg trwy goetiroedd rhewllyd neu’n rhedeg yn wyllt ar draeth enfawr sy’n croesawu cŵn fel traeth Morfa Conwy, mae yna ddigon o bethau i wneud i gynffon eich cyfaill pedair coes ysgwyd yr adeg yma o’r flwyddyn. Mae gan Gonwy ddigon o gaffis sy’n croesawu cŵn a llefydd i aros hefyd.
2. Mae Llandudno yn cynnal arddangosfa gelf gyfoes o’r radd flaenaf
Yn y gaeaf 2023–4, fel rhan o Artes Mundi, a gynhelir bob dwy flynedd, mae Oriel Mostyn Llandudno yn arddangos gwaith Taloi Havini, artist Nakas/Hakö o Ynys Bougainville ym Mhapua Gini Newydd. Mae’n defnyddio ffotograffiaeth, fideo a sain i greu tirluniau haniaethol a lliwgar iawn ar raddfa fawr. Gwych!
3. Mae’n dechrau teimlo fel y Nadolig
Gydag ystod o siopau annibynnol hyfryd, mae Sir Conwy yn le hwyliog i ddechrau ar eich siopa Nadolig. Er mwyn dechrau’r tymor mewn steil, dewch draw i Strafagansa Nadolig Llandudno yng nghanol mis Tachwedd. Mae’n ffair Nadoligaidd am ddim gyda stondinau anrhegion gwych, bwyd a diod blasus, adloniant unigryw a reidiau ffair.
4. Dyma’r tymor perffaith i wledda
Mae yna dal amser i gynllunio brecinio, cinio neu swper anhygoel cyn neu ar ôl cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. A gan fod gan nifer o fwytai gorau Conwy ardaloedd bwyta ar gyfer grwpiau, gallwch wneud eich rhestr gwesteion mor hir ag yr ydych chi eisiau iddi fod, gan wahodd eich hoff bobl a chael y manylion yn berffaith.
5. Gallwch fynd â’r teulu cyfan i weld sioe (o, gallwch fe allwch chi!)
Mae yna rywbeth i bawb yn rhaglen adloniant ddisglair y gaeaf Conwy. Yn 2023–4, paratowch ar gyfer Britain’s Got Comedy ac Everybody’s Talking About Jamie yn Venue Cymru yn Llandudno a darllediadau byw o’r Theatr Genedlaethol yn Theatr Colwyn ym Mae Colwyn. Ydych chi wrth eich bodd â phantomeim? Byddwch yn rowlio chwerthin yn gwylio perfformiad o Peter Pan yn Venue Cymru a Mother Goose yn Theatr Colwyn.
6. Gallwch ddechrau’r flwyddyn ar nodyn iach
Pa ffordd well o gynyddu cyfanswm eich camau na sbwylio eich hun i wyliau cerdded dros y gaeaf yng nghefn gwlad godidog Conwy? Gyda digon o lwybrau i’w harchwilio, byddai Parc Coedwig Gwydir yn le arbennig i ymweld ag o. Os byddai’n well gennych olygfeydd o’r môr a digon o awyr iach, bydd gennych ddigon o ddewis ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Mae’r gaeaf hefyd yn amser gwych i fwynhau ein clybiau golff, lle mae’r golygfeydd godidog cystal â’r cyrsiau eu hunain.
7. Mae’n dymor hyfryd i fod mewn cariad
Mae Cymru’n ddigon ffodus i gael nid yn unig un ŵyl aeaf ramantus, ond dwy. Tair wythnos cyn Diwrnod Sant Ffolant y mae Diwrnod Santes Dwynwen, sy’n cael ei ddathlu ar 25 Ionawr. Dwynwen, tywysoges ac iachawraig o’r bumed ganrif, yw nawddsant cariadon Cymru. Pam na wnewch chi adael iddi weithio ei hud ar eich rhywun arbennig drwy drefnu gwyliau bach rhamantus i ddau yng Nghonwy ym mis Ionawr?
8. Meddyliwch am yr holl lefydd hyfryd y gallech chi aros ynddynt!
Pan fyddwch yn dewis gwesty, llety, llety gwely a brecwast neu fwthyn ar gyfer gwyliau yn y gaeaf, ewch am rai steilus, ciwt a chlyd. Mae diwrnodau byrrach a thywydd anrhagweladwy yn golygu y byddwch yn awyddus i dreulio mwy o amser yn swatio dan do nag y byddech yn yr haf. Felly pam na wnewch chi sbwylio eich hun: archebwch rywle gwych, a gwnewch y mwyaf ohono!
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl