Am
Mae Go Below yn fusnes teuluol sydd wedi ennill gwobrau, sy’n cynnig anturiaethau tanddaearol, beth bynnag y tywydd.
Profwch deithiau tanddaearol am hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan drwy’r hen fwyngloddiau yng nghrombil Eryri. Mae dewis o tri o anturiaethau unigryw sy’n amrywio o ran yr her a’r cyffro. Does dim angen unrhyw brofiad, ac ni fydd yno unrhyw wasgu drwy ogofeydd a thyllau cyfyng.
Mae ein taith Her Go Below (10+) yn brofiad 5 awr, sy’n mynd trwy amgylchedd tanddaearol hudol. Byddwch yn gweld arteffactau hynafol, yn mynd ar gwch ar draws llynnoedd glas angof, yn dringo wynebau creigiau, ac yn abseilio o ddibynnau gyda chymorth ein tywyswyr profiadol.
I’r rhai sydd eisiau gwthio eu hunain ymhellach, mae ein taith Hero Xtreme (14+) yn 6 awr o grwydro’r chwarel lechi mwyaf a’r dyfnaf yn y byd! Profwch eich gallu meddyliol a chorfforol wrth lywio drwy lwybrau, pontydd a gwifrau sip cyffrous, gyda siawns i gael egwyl ar ein mainc bicnic Xtreme, sy’n hongian o wyneb craig anferthol!
Ar gyfer yr antur fythgofiadwy gorau bosibl, gwthiwch eich hun i’r eithaf ar ein taith Ultimate Xtreme 7 awr (18+). Os ydych chi’n anturiwr rheolaidd neu os ydych chi eisiau bod yn ddewr a goresgyn eich ofnau, mae ein taith Ultimate Xtreme yn antur danddaearol unigryw o’r radd flaenaf, gan gynnwys dringfeydd heriol fel y ‘corkscrew’, nifer o wifrau sip, yr unig naid rydd danddaearol yn y byd a’r reid sip danddaearol hiraf a’r dyfnaf yn y byd: ‘Goliath’.
Arweinir ein holl deithiau yn bersonol gan dywyswyr profiadol ac angerddol, a fydd yn eich cadw yn ddiogel ac yn eich annog i fentro. Bydd ein harweinwyr hefyd yn dangos cip i chi o’r diwydiant lechi a’i hanes drwy arteffactau hynafol sydd i’w gweld ar hyd y ffordd, yn yr amgylchedd sydd heb ei gyffwrdd.
Bydd esgidiau ac offer diogelwch yn cael eu darparu i chi. Yn agored drwy’r flwyddyn. Mae cyfyngiadau oedran yn gymwys. Gwiriwch y prisiau, argaeledd ac archebwch ar ein gwefan www.go-below.co.uk neu drwy ffonio’r swyddfa docynnau ar 01690 710108. Mae’r swyddfa docynnau yn agored bob dydd o 9am tan 5pm.
Pris a Awgrymir
| Math o Docyn | Pris Tocyn | 
|---|---|
| Oedolyn | £59.00 fesul math o docyn | 
Prisiau o £75 y person. Rhestr llawn or prisiau ar gael ar eu gwefan. Disgownt ar gael i grwpiau.
Cyfleusterau
Arlwyo
- Caffi
 - Pecyn cinio ar gael
 - Yn darparu ar gyfer llysieuwyr
 
Cyfleusterau Darparwr
- Cawodydd
 - Croesewir grwpiau un rhyw, e.e. partïon plu / penwythnosau stag
 - Cymorth Cyntaf
 - Hyfforddwyr cymwys
 - Lefel ffitrwydd ofynnol - canolradd
 - Lefel profiad - dechreuwr
 - Mae croeso i bobl nad ydynt yn aelodau
 - Offer/dillad am ddim
 - Siop
 - Toiledau
 - Yn darparu ar gyfer grwpiau ysgolion
 - Yswiriant wedi'i gynnwys
 
Dulliau Talu
- Derbynnir MasterCard
 - Derbynnir y prif gardiau credyd
 
Nodweddion Darparwr
- Yn y wlad
 
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
 - Maes parcio
 - Parcio ar y safle
 
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran) - Minimum age 10+
 
Teithio a Masnachu
- Disgownt ar gael ar gyfer grwpiau
 - Wi-fi ar gael
 
Teithio Grwp
- Derbynnir partïon coets
 
TripAdvisor

- Ardderchog1797
 - Da iawn60
 - Gweddol11
 - Gwael8
 - Ofnadwy6
 
        
    
 i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.





