Cwestiynnau Cyffredin
Mae ein tîm wedi ateb rhai o'u cwestiynau mwyaf cyffredin. Gobeithiwn fod hyn yn darparu popeth sydd ei angen arnoch, ond os oes gennych fwy o ymholiadau o hyd, cysylltwch â ni.
-
C: Pa fws sy’n mynd i Landudno?
A: Mae yna fysiau’n rhedeg yn rheolaidd rhwng Conwy a Llandudno. Ewch i gael golwg ar yr amserlenni diweddaraf ar ein tudalen Teithio o Gwmpas.C: Oes gennych chi amserlen ar gyfer bws rhif 19?
A: Oes, fe welwch chi amserlen bws rhif 19 ar ein tudalen Teithio o Gwmpas.C: Sut mae’r trên yn gweithio yng Nghonwy a Deganwy?
A: Mae gorsafoedd Conwy a Deganwy yn orsafoedd lle mae’r trên yn stopio ar gais yn unig. Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi ddangos i’r gyrrwr eich bod am i’r trên stopio drwy godi eich llaw ar y platfform, a rhoi gwybod i’r archwiliwr tocynnau os ydych chi eisiau dod oddi ar y trên yng Nghonwy neu Ddeganwy. Mae rhagor o fanylion i’w gweld ar ein tudalen Rheilffordd Dyffryn Conwy.C: Oes posib i mi gael map o Gonwy, Llandudno neu ogledd Cymru?
A: Oes! Fe allwch chi lawrlwytho mapiau oddi ar ein tudalen Teclyn Mapiau.C: Ydi’r car cebl yn rhedeg?
A: Mae Car Cebl Llandudno’n rhedeg yn dymhorol, fel arfer rhwng diwedd mis Mawrth a diwedd mis Hydref, os yw’r tywydd yn caniatáu. Ewch i gael golwg ar y statws diweddaraf ar ein tudalen Car Cebl.C: Ble ydw i’n dal y tram?
A: Mae Tramffordd y Gogarth yn cychwyn yng Ngorsaf Fictoria ar Church Walks yn Llandudno. Mae’r amserlen lawn a manylion y tocynnau i’w gweld ar ein tudalen Tramffordd y Gogarth.C: Alla’ i ddefnyddio fy mhas bws o Loegr yma?
A: Gallwch, mae pasys bws o Loegr yn ddilys ar fysiau lleol yng Nghymru ar ôl 9:30am yn ystod yr wythnos a drwy’r dydd ar benwythnosau. Ewch i gael golwg ar ein tudalen Teithio o Gwmpas am fanylion.C: Ble ydw i’n dal y bws i Gonwy/Bodnant?
A: Mae bysiau i Gonwy a Gardd Bodnant yn gadael o brif safleoedd bws Llandudno ar Mostyn Street. Ewch i gael golwg ar y llwybrau a’r amseroedd ar ein tudalen Teithio o Gwmpas.C: Ble alla’ i wefru fy nghar?
A: Mae yna fannau gwefru cerbydau trydan mewn sawl maes parcio yng Nghonwy a Llandudno. Ewch draw i’n tudalen Gwefru Cerbydau Trydan i gael gweld map.C: Sut alla’ i ymweld â Phortmeirion/Eryri o’r ardal hon ar gludiant cyhoeddus?
A: Fe allwch chi deithio i Bortmeirion ac Eryri ar drên a bws o Gyffordd Llandudno. Ewch i gael golwg ar ein tudalen Teithio o Gwmpas i weld y llwybrau a’r amseroedd.
-
C: Sut alla’ i gerdded muriau’r dref?
A: Mae yna bwyntiau mynediad wedi’u lleoli o amgylch y dref. Fe allwch chi grwydro’r muriau am ddim. Ewch i Muriau Tref Conwy i gael y manylion.C: Sut alla’ i fynd i mewn i Gastell Conwy?
A: Fe allwch chi brynu tocynnau ar lein neu yn y fynedfa ar Castle Street. Ewch i dudalen Castell Conwy i gael gweld yr oriau agor a’r prisiau.C: Ble mae’r Tŷ Lleiaf ym Mhrydain?
A: Ar Gei Conwy, ger yr harbwr. Chwiliwch am flaen coch llachar y tŷ!C: Pa mor bell ydi traeth Morfa Conwy o’r dref?
A: Mae Morfa Conwy tua 1.5 milltir o ganol y dref. Mae’r cyfarwyddiadau i’w gweld ar ein tudalen Traeth Morfa Conwy.C: Ble mae cychwyn y daith i fyny Mynydd Conwy?
A: Mae’r daith yn cychwyn ger Ffordd Bwlch Sychnant. Mae manylion llawn y daith i’w gweld ar dudalenC: Pa un ydi’r daith gerdded orau i fyny’r Gogarth?
A: Mae’r daith fwyaf poblogaidd yn cychwyn o Erddi’r Fach ac yn dilyn y llwybr igam-ogam i’r copa. Ewch draw i dudalen Llwybrau’r Gogarth i gael gweld mapiau a pha mor anodd yw’r teithiau.C: I ble alla’ i fynd i weld y geifr?
A: Mae’r geifr Cashmir yn crwydro’n rhydd ar y Gogarth yn Llandudno. Maen nhw i’w gweld yn aml ger y copa ac ar hyd y llwybrau cerdded.
-
C: I ble allwn ni fynd am fwyd a diod?
A: Ewch i weld pa fwytai, caffis a thafarndai sydd yna’n lleol ar ein tudalen Bwyd a Diod.
-
C: Pwy adeiladodd Gastell Conwy a pham?
A: Adeiladwyd Castell Conwy gan Edward I ar ôl iddo orchfygu Cymru ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Ewch i ddysgu mwy ar ein tudalen Castell Conwy.C: Beth ydi’r cysylltiad rhwng y ddraig goch a Chymru?
A: Y ddraig goch yw symbol cenedlaethol Cymru, ac mae’n cynrychioli cryfder a gwydnwch.C: Pa aderyn a gysylltir fwyaf â Chonwy?
A: Mae yna gysylltiad agos rhwng Conwy a jac-y-do, yn enwedig ar gyfer y rheiny a anwyd o fewn muriau’r dref.C: Beth ydi’r cysylltiad ag Alys yng Ngwlad Hud?
A: Mae gan Alice Liddel, sef yr eneth a ysbrydolodd straeon Lewis Carroll, gysylltiad cryf â Llandudno. Ewch i archwilio Llwybrau Alys a’r cerfluniau ar thema Alys yng Ngwlad Hud o amgylch y dref. Mae’r manylion i’w gweld ar ein tudalen Llwybrau Alys.C: Ble alla’ i glywed cyngerdd côr meibion?
A: Mae corau meibion lleol yn perfformio’n rheolaidd mewn eglwysi a neuaddau cymunedol ar hyd a lled Sir Conwy. Ewch i gael golwg ar ein tudalen Beth sydd ‘Mlaen i weld pa gyngherddau sy’n dod yn fuan.
-
C: Ble mae'r toiledau yng Nghonwy?
A: Ewch i gael golwg ar ein tudalen Toiledau yn Sir Conwy i weld lleoliadau’r toiledau.C: Be mae’r Ganolfan Groeso?
A: Mae’r manylion i’w gweld ar ein tudalen Canolfannau Croeso.