Croesawu’r Gaeaf yng Nghonwy
Wrth iddi nosi’n gynt, ac i rew orchuddio bryniau gogledd Cymru, mae Conwy’n dod yn fyw gyda hud y gaeaf. O danau gwyllt disglair a llwybrau cerdded braf yn y coed i ddiwrnodau sba moethus a bwyd bythgofiadwy, dyma’r tymor perffaith i arafu, swatio a mwynhau popeth sydd gan y gaeaf i’w gynnig.
Mae Sir Conwy yn gyrchfan croesawgar drwy gydol y flwyddyn, ac mae yna rywbeth arbennig iawn am y gaeaf yng Nghonwy. Darganfyddwch ysbrydoliaeth dymhorol, cynigion arbennig, digwyddiadau Nadolig a phrofiadau bythgofiadwy ar draws y sir. Pa un ai ydych chi’n cynllunio gwyliau bach clyd neu antur awyr agored ar ddiwrnod oer, gwisgwch yn gynnes a gwnewch Conwy yn rhan o’ch stori aeaf.
Y gaeaf yng Nghonwy – rhywbeth i bawb
Gwelir ochr wahanol i Sir Conwy yn y gaeaf. Mae’r mynyddoedd yn amlycach yn erbyn yr awyr glir, y tonnau’n torri ar y traethau gwag a’r golau’n tywynnu’n ysgafn ar y dyffrynnoedd. Dyma’r tymor i lapio’n gynnes, camu allan i’r awyr agored a mwynhau’r holl elfennau o’ch cwmpas, cyn dychwelyd yn ôl i’r cynhesrwydd clyd o bosibl.
Gall eich dyddiau allan gynnwys cyfuniad o dirweddau rhewllyd, golygfeydd arfordirol a chanrifoedd o hanes gyda siopau annibynnol, adloniant tymhorol a blasau lleol cysurus. Gallwch aros ger y lli, deffro yng nghanol y bryniau neu ddewis un o’n trefi a’n pentrefi fel canolbwynt ar gyfer archwilio’r sir. Sut bynnag y byddwch yn dewis treulio’r gaeaf, yn Sir Conwy, fe gewch chi gyfuniad perffaith o awyr iach, croeso cynnes, llefydd hyfryd i aros a phrofiadau sy’n werth eu rhannu.
Bwyd a diod yng Nghonwy’r gaeaf yma
Profwch flasau’r gaeaf yng Nghonwy gyda the prynhawn Nadoligaidd, bwydlenni partis Nadolig…
Archwiliwch ein blogiau gaeaf
Archwiliwch ein blog am syniadau tymhorol, straeon lleol a ffyrdd arbennig i fwynhau’r gaeaf yn Sir…
Digwyddiadau Gaeaf yn digwydd yn Sir Conwy...
Finding Alice – A Winter Wonderland Adventure Through Llandudno
- Nov 16, 2026 - Feb 28, 2027
Christmas Wreath Making
- Nov 19, 2026 - Dec 3, 2026
Conwy @ Christmas
- Nov 19, 2026 - Nov 22, 2026
Food, Craft and Gift Fayre
- Nov 20, 2026 - Nov 21, 2026
Christmas Craft and Gift Fayre
- Nov 21, 2026 - Nov 22, 2026
Awyr dywyll yn Sir Conwy
(The Milk Way over The Hut, Llwyn Onn Campsite, Pentrefoelas)
Dewch o hyd i rywle arbennig i aros
Porwch drwy ein rhestrau llety i ddod o hyd i’r lle perffaith i aros!