Ardoll Ymwelwyr

Cwestiynau Cyffredin: Ardoll Ymwelwyr:

Penderfyniadau Pwysig y Cyngor sydd i ddod ar yr Ardoll Ymwelwyr

  • Mai 2026 – Ymgynghoriad wedi'i gymeradwyo

Mae ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr Conwy bellach ar gau. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad o 20 Mai 2026 tan 17 Gorffennaf 2026. Mae’r canlyniadau’n cael eu casglu cyn eu cyflwyno i’r pwyllgorau democrataidd ym mis Medi 2026. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr ymgynghoriad, anfonwch e-bost at twristiaeth@conwy.gov.uk

  • Yn fuan ym mis Medi 2026 – Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle

Ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, fe fydd yr holl adborth yn cael ei ddadansoddi a’i gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle.  Fe fydd y pwyllgor yn adolygu’r canfyddiadau ac yn gwneud argymhellion ond ni fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

  • Diwedd mis Medi 2026 – Cyngor Llawn

Y Cyngor llawn fydd yn gyfrifol am benderfynu cyflwyno’r Ardoll Ymwelwyr ai peidio.

Os caiff ei gytuno, fe fyddai’r Ardoll yn dod i rym ar 1 Hydref 2027 yn dilyn y cyfnod rhybudd gofynnol o 12 mis i Awdurdod Refeniw Cymru (a fydd yn rheoli ac yn casglu’r ardoll).

Am wybodaeth fusnes, ewch i'r dudalen Cwestiynau Cyffredin Busnes