Teithiau Golygfeydd a Gwibdeithiau
Mwynhewch eich ymweliad â Sir Conwy i’r eithaf drwy ymuno ag un o’n teithiau tywys i weld y golygfeydd. O’r traethau braf i’r dyffrynnoedd coediog a’r trefi hanesyddol, mae’r teithiau’n ffordd fendigedig o ddarganfod y rhannau mwyaf difyr o’r sir yn rhwydd.
-
Yn ymestyn dros 1,130 cilometr sgwâr, mae tirlun Sir Conwy’n amrywiol dros ben. Mae teithiau’n mynd yma ac acw ledled y rhanbarth – ar hyd yr arfordir yng nghyffiniau Llandudno, Bae Colwyn, Llandrillo-yn-Rhos ac Abergele, i’r mewndir drwy Ddyffryn Conwy ac ymlaen tuag Eryri. P’un a oes yn well gennych fwynhau’r golygfeydd ar lan y môr, mewn safleoedd treftadaeth neu yng nghefn gwlad, mae yma rywbeth at ddant pawb.
-
Ewch i weld Pen y Gogarth yn Llandudno ar ei orau ar Daith Fforio’r Gogarth neu ewch am dro hen ffasiwn o amgylch y pentir ar Daith Marine Drive. I gael golwg ehangach ar yr ardal, mae’r bws City Sightseeing yn mynd heibio Llandudno, Castell Conwy, y Pier a rhannau hardd o gefn gwlad.
Os hoffech grwydro i’r mewndir, mae Adventure Tours Snowdonia yn cynnal teithiau ym Mharc Cenedlaethol Eryri a thrwy drefi a phentrefi fel Llanrwst, Betws-y-coed a Threfriw, sy’n adnabyddus am lwybrau braf ger glannau afonydd, coedwigoedd a threftadaeth leol.
-
Porwch drwy’r dewisiadau i ddod o hyd i’r daith ddelfrydol i’ch helpu i ddarganfod rhannau newydd o Sir Conwy.
Gallwch brynu tocynnau gan unrhyw un o’r darparwyr teithiau neu fynd i un o’n Canolfannau Croeso yn Llandudno a Chonwy.
Ffoniwch 01492 577577 i gael manylion.