Teithio o Gwmpas
Tybed sut i deithio o gwmpas Sir Conwy? Mae bysiau a threnau rheolaidd, yn ogystal â thacsis, llogi ceir, opsiynau parcio a phwyntiau gwefru cerbydau trydan...
-
Mae yna wasanaethau bws rheolaidd ar hyd yr arfordir a thrwy Ddyffryn Conwy.
Ewch i’n tudalen Gwasanaethau Bws i weld llwybrau, amserlenni a’r gwasanaeth fflecsi
-
Mae’r gwasanaethau rheilffordd yn cysylltu trefi’r arfordir â Dyffryn Conwy, gweddill y gogledd a thu hwnt.
Ewch i’n tudalen Gwasanaethau Trên am fwy o wybodaeth.
-
Mae yna gwmnïau tacsis ar hyd a lled y sir a gall fod yn opsiwn hwylus ar gyfer teithiau byrrach neu gyda’r nos.
Fe gewch hyd i wasanaethau yn y rhan fwyaf o drefi, yn cynnwys Llandudno, Conwy, Bae Colwyn, Abergele, Llanrwst a Betws‑y‑coed.
Gwybodaeth am dacsis a cherbydau hurio preifat
-
Mae yna gwmnïau hurio ceir yn y trefi mawr, sy’n cynnig hyblygrwydd i chi archwilio ardaloedd gwledig a llwybrau golygfaol.
Gwybodaeth am Hurio Car
-
Mae llefydd parcio ar gael yng nghanol trefi, ardaloedd arfordirol ac wrth ymyl atyniadau poblogaidd.
Gallwch ddod o hyd i feysydd parcio yn Llandudno, Conwy, Bae Colwyn, Llandrillo-yn-Rhos, Abergele, Betws-y-coed a lleoliadau eraill.
Ewch i’n tudalen Meysydd Parcio i weld lleoliadau, prisiau a mapiau.
-
Mae yna bwyntiau gwefru cerbydau trydan ar hyd a lled y sir, yn cynnwys mewn trefi arfordirol ac ardaloedd gwledig.
Gall ymwelwyr wirio mewn amser go iawn beth yw argaeledd a lleoliad y rhain cyn teithio.
Lleoliadau mannau gwefru cerbydau trydan.
-
Os nad ydych chi’n siŵr iawn pa ddull teithio sydd orau i chi, gall cynllunwyr taith eich helpu chi i gymharu opsiynau bws, trên, tacsi a cherdded.
Ewch i Traveline Cymru i gynllunio’ch taith ar draws Cymru.