Datganiad Hygyrchedd

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r cynnwys a gyhoeddir ar barth https://cy.visitconwy.org.uk/ Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sydd yn rheoli’r wefan o dan y brand Dewch i Gonwy / Visit Conwy. Rydym am i gymaint o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny yn golygu y dylech allu:

  • chwyddo hyd at 300% heb i’r tesun gwympo oddi ar y sgrîn
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae’r wefan yn cydymffurfio’n rhannol gyda safon AA fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod. Rydym yn gweithio ar y rhannau hyn o’r safle ac wedi ymrwymo i gynhyrchu safle hygyrch ar gyfer pob defnyddiwr.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

  • Cynnwys ysgrifenedig. Mae cynnwys ar ein safle wedi ei adolygu a’i ailysgrifennu fel ei fod yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WLAG). Fodd bynnag, rydym wedi archwilio nifer o dudalennau lle mae rhwyddineb darllen y cynnwys yn wael.
  • Delweddau. Nid oes testun amgen addas ar gyfer delweddau ar dudalennau bob amser. Mae rhai delweddau heb unrhyw destun amgen, ac mae testun anghyflawn ar rai delweddau. Mae hyn yn methu cyrraedd maen prawf llwyddiant WCAG 1.1.1A (Cynnwys di-destun) Rydym yn bwriadu nodi a chywiro’r rhain erbyn Medi 2020.
  • Ffurflenni. Mae rhai o’n ffurflenni ar-lein yn anodd i’w llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Cyfryngau wedi’u recordio o flaen llaw. Does dim geiriad na disgrifiadau sain ar gyfryngau a recordiwyd o flaen llaw a ychwanegwyd at y safle cyn 23 Medi 2020. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.2.3 (Disgrifiad Sain neu Gyfrwng Amgen) (Wedi ei recordio o flaen llaw). Rydym yn bwriadu diweddaru’r rhain maes o law.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

  • PDFS. Nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn hollol hygyrch i feddalwedd darllen sgrîn. Byddwn yn adolygu’r holl ddogfennau PDF. Fodd bynnag, o 23 Medi 2020 ymlaen byddwn yn sicrhau bod yr holl PDFs sy’n cael eu hychwanegu yn hollol hygyrch.
  • Cynnwys trydydd parti, fel manylion busnesau. Rydym yn ceisio monitro’r cynnwys mae trydydd partïon yn eu darparu ar gyfer ein gwefan fel delweddau, disgrifiadau a dogfennau. Fodd bynnag, weithiau dydy hyn ddim yn bosib oherwydd adnoddau. Mae rhai dogfennau a ddarparwyd gan drydydd partïon lle nad ydym ni wedi eu datblygu neu dalu amdanynt, ac felly mae’n bosib nad ydynt yn cyrraedd y safonau hygyrchedd angenrheidiol.
  • Mapiau ar-lein. Byddwn yn ceisio sicrhau fod mapiau ar-lein mor hygyrch â phosib, ond ar hyn o bryd mae mapiau ar-lein wedi eu heithrio o’r gofyniad i fodloni rheoliadau hygyrchedd.

Baich anghymesur

Mae’r wefan yn cydymffurfio gyda Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.  

Dangosir manylion y wybodaeth a eithriwyd o dan reoliad 4(2) a rheoliad 7(4) isod.

  • Cynnwys

Mae’r rhan fwyaf o’r cynnwys ar ein safle wedi ei adolygu a’i ailysgrifennu fel ei fod yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WLAG). Fodd bynnag, rydym wedi archwilio nifer o dudalennau lle mae rhwyddineb darllen y cynnwys yn wael. Rydym wedi asesu cost cywiro’r dogfennau hynny ac rydym o’r farn y byddai cost y gwaith hwn yn faich anghymesur fel yr amlinellir yn y rheoliadau hygyrchedd. Fodd bynnag, byddwn yn sicrhau bod unrhyw dudalennau newydd a ychwanegir o 23 Medi 2020 ymlaen yn bodloni Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG).

Sut i wneud cais am gynnwys mewn fformat hygyrch

Os oes angen gwybodaeth mewn fformat wahanol arnoch, cysylltwch â ni a dywedwch wrthym:

  • beth yw cyfeiriad (URL) gwe y cynnwys
  • beth yw eich enw a’ch cyfeiriad e-bost
  • pa fformat sydd ei angen arnoch – er enghraifft BSL neu brint bras, PDF hygyrch

Gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at tourism@conwy.gov.uk neu drwy ffonio 01492 575950.

Dolenni

Byddwch yn ymwybodol y gallai rhai dolenni agor mewn ffenest newydd. Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau mai dim ond â gwefannau dibynadwy rydym yn cysylltu. Fodd bynnag, ni dderbynnir unrhyw atebolrwydd am gynnwys a gwybodaeth gwefannau y cysylltir â nhw, na dibyniaeth ar wybodaeth a gynhwysir ynddynt

Adrodd am broblemau hygyrchedd ar y wefan hon

Rydym yn croesawu adborth ar hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i rywbeth nad oes modd i chi ei agor, neu ein bod wedi methu nodi rhwystr, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.

Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio un o’r dulliau isod:

E-bost: tourism@conwy.gov.uk     Ffôn: 01492 575950

Gweithdrefn Orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiadau Symudol) (Rhif  2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut byddwn yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i sicrhau fod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiadau Symudol) (rhif  2) 2018.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 28 Awst 2020. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 22 Medi 2020.

Profwyd y wefan ddiwethaf ar 17 Medi 2020. Cynhaliwyd y prawf gan ein tîm ein hunain a brofodd sampl o dudalennu gwe er mwyn gwirio safonau hygyrchedd.

Rydym yn penderfynu ar ein tudalennau samplu drwy nodi’r tudalennau mwyaf poblogaidd ar ein gwefan a gwirio pa mor hygyrch ydynt.