Pentrefi Hiraethog a Llyn Brenig

Mae ardal Hiraethog yn dirwedd sy’n cynnig awyr agored, rhostir grug, coedwigoedd a llynnoedd.  Yn anghysbell, heddychlon a llawn cymeriad, mae Mynydd Hiraethog yn berffaith i gerddwyr, rhai sy’n mwynhau bywyd gwyllt ac unrhyw un sy’n chwilio am ddihangfa mewn cefn gwlad agored.