Darganfod Sir Conwy: Arfordir, Cefn Gwlad a Mynyddoedd

Chwilio am y llefydd gorau i ymweld â nhw yn Sir Conwy? Mae pob ymweliad yn wahanol wrth i chi ganfod cymysgedd amrywiol o gyrchfannau glan môr, trefi hanesyddol a mynyddoedd hynod o hardd – bob un o fewn pellter cyrraedd hawdd.

Daw Sir Conwy ag arfordir, cefn gwlad a mynyddoedd at ei gilydd i greu un cyrchfan nodedig. O goethder Fictoraidd Llandudno a chyfaredd glan môr Llandrillo-yn-Rhos, Penmaenmawr, Llanfairfechan, Bae Cinmel ac Abergele i draeth eang Bae Colwyn, mae gan yr arfordir rywbeth i bawb.

Mae Conwy hanesyddol, gyda’i chastell byd-enwog, a Deganwy steilus yn ychwanegu treftadaeth a golygfeydd o’r marina, tra bod Llanrwst a phentrefi Dyffryn Conwy ac ucheldiroedd llonydd Hiraethog yn llawn harddwch gwledig a thraddodiadol.

Yn borth i Eryri mae pentref Betws-y-coed yn gorffen y darlun fel cyrchfan fynyddig sy’n croesawu ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn.

Mae’r trefi a’r tirweddau hyn yn fan cychwyn gwych, ac mae yna lawer iawn o bentrefi a llecynnau arfordirol eraill ar draws y sir yn aros amdanoch chi.

Ewch i'r tudalennau isod i ddod o hyd i atyniadau lleol, llwybrau cerdded, digwyddiadau, llefydd bwyta a’r nodweddion sy’n gwneud bob lle yn unigryw.