Croeso i Gŵn
Mae Sir Conwy’n lle gwych i anturio gyda’ch ffrind pedair coes, ac mae llawer o gaffis, tafarndai a bwytai’n fwy na bodlon i chi ddod â’ch ci. O gaffis hamddenol ar yr arfordir i dai tafarn traddodiadol, mannau gorffwys hardd ar lwybrau a gerddi cwrw sy’n croesawu cŵn, mae digonedd o ddewis i fwynhau pryd o fwyd a diod heb adael eich anifail anwes adref. P’un a ydych chi’n cael seibiant ar eich taith gerdded neu’n cynllunio tamaid i’w fwyta ar ôl diwrnod yn yr awyr iach, fe fydd croeso cynnes i chi a’ch ci.