Dewch i Gonwy

Dewch i Gonwy yw gwefan gyrchfan swyddogol Sir Conwy, a luniwyd i helpu ymwelwyr gynllunio a mwynhau eu hamser yn yr ardal.

Os ydych yn ymweld am wyliau byr neu’n aros yn hirach, mae’r safle’n dod â gwybodaeth ymarferol a syniadau at ei gilydd i’ch helpu chi ddarganfod beth sydd gan Sir Conwy i’w gynnig.

Cynllunio eich Ymweliad

Ar Dewch i Gonwy, mae gwybodaeth i’ch helpu i gynllunio pob rhan o’ch taith, yn cynnwys:

  • Pethau i’w gwneud a lleoedd i’w harchwilio
  • Digwyddiadau a phethau sy’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn
  • Lleoedd i aros, i fwyta ac yfed
  • Gwybodaeth am deithio a chludiant
  • Syniadau tymhorol ac ysbrydoliaeth

Dyluniwyd y safle fel ei fod yn hawdd ei ddefnyddio, gyda gwybodaeth glir i’ch helpu i benderfynu ble i fynd, beth i’w weld a sut i fynd o gwmpas.

Darganfod Sir Conwy

O’r arfordir a chefn gwlad i drefi, pentrefi ac atyniadau hanesyddol, mae Sir Conwy yn cynnig amrywiaeth eang o brofiadau.  Nod Dewch i Gonwy yw adlewyrchu amrywiaeth yr ardal a helpu ymwelwyr ddod i hyd i brofiadau sy’n cyd-fynd â’u diddordebau, eu cyflymdra ac adeg o’r flwyddyn.

Y Wefan

Rheolir Dewch i Gonwy gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel rhan o’i waith i gefnogi twristiaeth a’r economi ymwelwyr lleol.  Caiff y wybodaeth ar y safle ei diweddaru’n rheolaidd i sicrhau ei bod yn parhau’n gywir ac yn ddefnyddiol i ymwelwyr.

Angen Rhagor o Wybodaeth?

Os ydych yn cynllunio ymweliad ac angen rhagor o wybodaeth, archwiliwch y wefan neu cysylltwch â thîm Dewch i Gonwy am gymorth a chyngor.