Hydref yn Nyffryn Conwy: taith hardd yn y car drwy Ogledd Cymru

Os ydych chi eisiau mwynhau diwrnod cofiadwy yng Ngogledd Cymru yr hydref hwn, byddai taith yn y car drwy brydferthwch Dyffryn Conwy yn anodd ei churo. Dyma dirwedd sy’n eich gorfodi i deithio’n araf: ffyrdd troellog, golygfeydd ar lan yr afon, bryniau coediog a threfi marchnad hardd, i gyd wedi’u lliwio gan liwiau newidiol y tymor. Yn yr hydref, mae’r dyffryn yn cynnig awyrgylch tawelach a chyfoethocach, gyda’i ddail euraidd, boreau niwlog a digon o fannau i oedi ar hyd y ffordd.

Gallwch ddilyn y llwybr o’r mynyddoedd tuag at yr arfordir, neu fwynhau taith gylchol hamddenol o Gonwy, Llandudno neu Fetws-y-Coed. Naill ffordd neu’r llall, mae’n werth i chi ganiatáu diwrnod cyfan ar gyfer eich taith. Mae gerddi, cestyll, caffis, atyniadau i’r teulu, gwarchodfeydd bywyd gwyllt a golygfannau trawiadol i’w mwynhau, felly byddwch yn hyblyg a chofiwch adael digon o amser i oedi mewn rhai mannau eraill sy’n mynd â’ch bryd.

Dechreuwch ger porth Eryri: Betws-y-coed

Dechreuwch ym Metws-y-Coed, a ddisgrifir yn aml fel porth Eryri. Wedi’i amgylchynu gan goedwig, afonydd a golygfeydd o’r mynyddoedd, mae’r pentref poblogaidd hwn yn fan cychwyn naturiol ar gyfer antur drwy Ddyffryn Conwy. Cyn dechrau ar eich taith, treuliwch amser yn crwydro o amgylch y siopau annibynnol, mwynhewch baned o goffi, neu ewch am dro ar un o’r llwybrau hygyrch ar lan yr afon neu’r coetir sy’n agos at ganol y pentref.

Os ydych chi eisiau ymestyn eich coesau yn iawn, mae llwybrau’r goedwig a’r daith gerdded at y rhaeadr yn rhoi cyflwyniad bendigedig i’r dirwedd. Mae’r hydref yn arbennig yn llawn awyrgylch yma, gyda sŵn y dŵr yn byrlymu, mwsogl tamp dan droed a dail euraidd y coed ffawydd yn disgleirio yn erbyn y coed bytholwyrdd. Unwaith y byddwch yn barod i barhau ar eich taith, dilynwch y ffordd i gyfeiriad y gogledd tuag at Lanrwst, gydag Afon Conwy yn llifo drwy’r dyffryn wrth eich ochr.

Cymerwch seibiant yn Llanrwst a chroeswch y bont eiconig

Mae Llanrwst yn fan delfrydol i stopio gyntaf. Mae’r dref farchnad hanesyddol hon yn eistedd ar lannau Afon Conwy ac mae’n enwog am ei phont hardd, Pont Fawr, ac ystafell de Tu Hwnt i’r Bont sydd yn enwog mewn lluniau. Yn yr hydref, mae’r lleoliad yn arbennig o hardd, gyda’r bont garreg, glannau’r afon a’r coed gerllaw yn creu un o olygfeydd mwyaf eiconig y dyffryn.

Mae Llanrwst hefyd yn lle da i gael seibiant cyn parhau ar eich taith. Crwydrwch o amgylch y siopau annibynnol, arhoswch am ginio neu ewch am dro ar hyd lan yr afon cyn penderfynu pa ran o’r dyffryn i’w harchwilio nesaf. Oddi yma, gallwch barhau ar hyd yr A470 tuag at Ystâd Bodnant, neu groesi’r afon a dilyn y B5106 drwy Drefriw a Dolgarrog. Mae’r ddau lwybr yn llawn golygfeydd hardd, felly os oes gennych ddigon o amser, mae taith gylchol rhyngddynt yn cynnig y gorau o’r ddau fyd.

Hwyl i’r teulu o amgylch Trefriw a Dolgarrog

Y tu allan i Lanrwst a thros yr afon, mae Castell Gwydir yn ychwanegu haen arall o dreftadaeth at y lleoliad hwn. Mae’r maenordy Tuduraidd hwn, a oedd unwaith yn gartref i'r teulu Wynn pwerus, wedi’i leoli o fewn gerddi hanesyddol ac mae ganddo gymeriad wedi'i wisgo gan amser sy'n cyd-fynd yn hyfryd â’r dyffryn. Os yw’r oriau agor yn cyd-fynd â’ch ymweliad, mae’n werth i chi alw heibio ar eich taith i weld y bensaernïaeth, y gerddi a chael syniad o hanes Cymru.

Wrth gadw ar y B5106, fe ddewch at bentref Trefriw, pentref tawel gyda chysylltiadau cryf â chreu tecstilau Cymreig. Mae’n fan braf i grwydro’n hamddenol, ac mae’r bryniau cyfagos yn cynnig llwybrau cerdded gyda golygfeydd bendigedig dros y dyffryn. Parhewch tuag at bentref Dolgarrog ac fe welwch bod y dirwedd o’ch cwmpas yn dechrau adrodd stori wahanol; stori am ddiwydiant, adfywio ac antur.

Yn y gorffennol roedd pentref Dolgarrog wedi’i siapio gan ddylanwad diwydiant trwm, ond erbyn heddiw, mae’n cael ei adnabod fel lleoliad ar gyfer diwrnodau allan egnïol.  Mae’r Adventure Parc, a oedd gynt yn gysylltiedig â’r lagŵn syrffio mewndirol, yn awr yn canolbwyntio ar anturiaethau dan do ac awyr agored ar gyfer ystod eang o oedrannau, yn cynnwys ogofa dan do, dringo, heriau ninja, rhaffau uchel, man chwarae meddal antur, cerdded ceunentydd, beicio a chyfleoedd i fynd am dro gerllaw. Mae’n ddewis da mewn tywydd gwael hefyd, yn enwedig os ydych chi’n teithio gyda phlant egnïol neu blant yn eu harddegau.

I lawr y lôn, mae Drysle Dyffryn Conwy yn cynnig math gwahanol o antur. Wedi’i leoli rhwng Trefriw a Dolgarrog, mae’r drysle cywrain hwn, sydd wedi’i blethu â gwyrddni’r dyffryn ac yn gyrchfan hwyliog i ymwelwyr o bob oed. Argymhellir eich bod yn gwisgo esgidiau addas, yn enwedig os yw wedi bod yn bwrw glaw, ac mae yna hefyd siop goffi ar y safle i chi fwynhau diod haeddiannol ar ôl dianc o’r drysle. Mae hwn yn ychwanegiad bendigedig at eich taith hydrefol, gan roi rheswm i deuluoedd arafu a mwynhau’r dyffryn ar lefel y tir.

Dilynwch yr A470 tuag at Bodnant

Os byddwch yn dewis ochr yr A470 o’r dyffryn, buan iawn y bydd y ffordd yn dod â chi at Ystâd Bodnant a’r gerddi byd enwog. Mae Gardd Bodnant yn un o uchafbwyntiau Dyffryn Conwy, gan gyfuno gerddi hardd, tŷ hanesyddol a golygfeydd ysblennydd. Hawdd iawn yw treulio oriau yma, felly cynlluniwch ymlaen llaw os ydych chi eisiau gwneud mwy na galw heibio’n sydyn.

Gerllaw, mae Bwyd Cymreig Bodnant yn fan delfrydol i aros am ginio, mwynhau cynnyrch lleol neu ddiod gynnes. Gyda bwyd, diod a golygfeydd i gyd i’w cael yn yr un lle, mae’n gweithio’n dda, p’un a ydych yn chwilio am bryd hamddenol neu rywbeth blasus i fynd adref gyda chi i’ch atgoffa o’ch trip.

Conwy: dewch â’ch taith i ben gyda golygfeydd o fywyd gwyllt, yr arfordir a’r castell

Wrth i Afon Conwy nesáu at yr arfordir, mae’r dirwedd yn agor allan tua’r foryd. Mae Gwarchodfa Natur RSPB Conwy, yn lle ardderchog i ymweld ag o, cyn cyrraedd tref Conwy. Mae ei llwybrau, cuddfannau a golygfeydd o dir gwlyb yn cynnig cyferbyniad hamddenol i’r atyniadau prysur mewn mannau eraill yn y dyffryn. Mae’r hydref a’r gaeaf yn adegau da i wylio’r adar, gydag adar hirgoes ac adar hela yn hedfan heibio neu’n setlo ar gyfer misoedd y gaeaf.

O’r warchodfa, rydych yn agos iawn at Gonwy, lle mae’r castell canoloesol a waliau’r dref yn dod â’r siwrnai ddramatig hon i ben. Os oes gennych ddigon o amser, parciwch y car ac ewch am dro drwy’r strydoedd hanesyddol, galwch heibio’r siopau annibynnol, neu ewch i lawr at y cei i weld y golygfeydd ar draws y foryd. Ar ôl diwrnod o fwynhau lliwiau’r coed, awyr y mynyddoedd, gerddi a golygfeydd o’r afon, mae tafarndai a bwytai cysurus Conwy yn barod i’ch croesawu am weddill y noson.

Cynlluniwch eich taith drwy Ddyffryn Conwy

Yr hyn sy’n wych am y daith hon drwy Ddyffryn Conwy yw y gallwch ei haddasu’n benodol ar eich cyfer chi. Efallai y bydd teuluoedd yn canolbwyntio ar atyniadau megis Drysle Dyffryn Conwy, Adventure Parc a lleoliadau cyfleus ar lan yr afon. Efallai y bydd y rhai sy’n hoffi garddio yn dymuno treulio mwy o amser ym Modnant, a cherddwyr a ffotograffwyr eisiau dilyn y golau, y dail a’r llwybrau mwy tawel. Pa bynnag ffordd y byddwch yn mynd ati i gynllunio eich taith, cofiwch wirio oriau agor cyn teithio, gwisgwch esgidiau sy’n addas ar gyfer y tymor a sicrhewch eich bod yn caniatáu digon o amser i fwynhau’r siwrnai yn hytrach na rhuthro o un lle i’r llall.

Erbyn diwedd y dydd, byddwch wedi gweld sawl agwedd ar Ddyffryn Conwy: pentref yn y mynyddoedd, tref farchnad, bryniau coediog, atyniadau i’r teulu, gardd ac ystâd, gwarchodfa bywyd natur a thref ganoloesol ger yr harbwr. Yn yr hydref, mae’r amrywiaeth hwnnw’n teimlo’n fwy arbennig fyth. Felly, cofiwch eich camera, dewiswch eich llwybr a mwynhewch un o siwrneiau prydferthaf Gogledd Cymru.

Aston Martin in Conwy