Gwneud y gorau o Fae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos mewn diwrnod

Awyr las hyd y gorwel, tywod euraidd am y gwelwch, yr haul yn disgleirio oddi ar donnau ysgafn… mae'n swnio fel breuddwyd, yn tydi? Beth pe baem yn dweud wrthych chi nad oes angen i chi fynd dramor i fwynhau hyn? Mae ar gael yma ar ein stepen drws yn Sir Conwy! Yr haf hwn, cadwch y pasbort a dewiswch ddihangfa i lan môr Cymru yn lle. 

Rydyn ni'n meddwl bod Bae Colwyn a'r pentref drws nesaf, Llandrillo-yn-Rhos, yn llefydd perffaith i gael diwrnod allan ar lan y môr. Gyda thraeth tywodlyd byd-enwog, harbwr hyfryd ac ychydig o hanes lleol, mae'n gyfuniad sy'n anodd ei guro. P'un a ydych chi'n chwilio am deithiau cerdded arfordirol hamddenol, tirnodau sy'n werth eu rhoi ar Insta neu fwyd lleol gwych, gadewch i ni ddangos i chi sut i fwynhau diwrnod heulog yn y perlau o lefydd hyn yng Ngogledd Cymru.

Paned a golygfa: brecwast wrth y môr

Beth am ddechrau diwrnod prysur gyda brecwast llawn. Rownd y gornel o orsaf drenau Bae Colwyn fe welwch chi gaffi Flat White. Gyda naws ffasiynol, annibynnol, mae'r caffi hwn yn gweini bwydlen brecwast a brecwast hwyr deniadol sy'n cynnwys opsiynau fegan a llysieuol hefyd.

Os allwch chi ddim aros i drochi'ch traed yn y dŵr, ewch yn syth i'r promenâd a galwch heibio i Bryn Williams ym Mhorth Eirias am ddanteithion brecwast i fynd. Mae modd prynu diodydd poeth ac oer, rholiau brecwast ac amrywiaeth o deisennau crwst ffres i fynd gyda chi, fel nad ydych chi’n colli eiliad! 

Os ydych chi'n dechrau'r diwrnod yn Rhos, mae Fortes yn fwy na bwyty, mae'n sefydliad lleol. Mae'r bwyty teuluol hwn wedi bod yn gweini bwyd cartref blasus ers 100 o flynyddoedd. Mae bwydlen Fortes yn cynnwys brecwast traddodiadol Cymreig a detholiad o brydau brecwast hwyr hefyd, pob pryd wedi'u coginio'n ffres.  

Taith gerdded llawn hwyl ar hyd y promenâd!

Ar ôl brecwast, cewch fynd am dro ar hyd glan môr tywodlyd hir Bae Colwyn. Yn bron i 3 milltir o hyd, mae promenâd Bae Colwyn yn ymestyn o Hen Golwyn i Landrillo-yn-Rhos, gyda'r Pier Fictoraidd hyfryd newydd ei adfer yn ganolbwynt ac yn dynodi’r fynedfa i ganol tref Bae Colwyn. Gallwch yrru, cerdded neu feicio ar hyd y llwybr - mae pob opsiwn yn cynnig golygfeydd syfrdanol a digon o leoedd i orffwys a chael tamaid i’ch cadw i fynd.

Cofiwch stopio wrth gerflun Terry Jones! Cafodd y deyrnged hon i seren Monty Python, y’i ganwyd a’i magwyd ym Mae Colwyn, ei gosod yn ddiweddar wrth ymyl y pier. Wedi'i gerflunio gan yr artist lleol Nick Elphick, mae'n deyrnged hwyliog, addas a chofiadwy i'r clasur o gomedi Prydeinig. Mae hefyd yn gyfle gwych i dynnu lluniau, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n galw heibio ac yn dangos eich campau gwirion gorau!

Os yw'r llanw i mewn, does dim rhaid i'r hwyl ddod i ben! Ym mhen Rhos y promenâd (Promenâd y Gorllewin) fe welwch Golff Antur Bae'r Môr-ladron. Mae'r atyniad hwn i’r teulu oll yn cynnig sesiwn golff gwirion 12 twll ac mae'n ffordd wych a rhesymol o dreulio awr neu ddwy. Mae pwll padlo a pharc Llandrillo-yn-Rhos yn rhad ac am ddim ac ar agor i'r cyhoedd rhwng mis Mai a mis Hydref. Gydag ardal laswelltog fawr, dyma gyfle i chi ymlacio tra bod y plant yn mwynhau'r dŵr. 

Naws pentref: cinio wrth y môr

Ar ôl bore prysur, dyma gyfle gwych i stopio am damaid o ginio. Mae pentref Llandrillo-yn-Rhos ym mhen gorllewinol y promenâd yn lle hyfryd, gyda digon o ddewis o gaffis a thafarndai. Pysgod a sglodion o Bells (gwyliwch y gwylanod!) neu ysgytlaeth llawn dop o Salty Cow, mae rhywbeth at ddant pawb yma. Cymerwch ychydig o amser i grwydro drwy’r siopau annibynnol o amgylch y pentref, mae’n lle gwych i brynu rhoddion Cymreig fel atgof o’ch ymweliad.

Taith gerdded ar ochr wyllt Bae Colwyn

Yn y prynhawn, beth am gael seibiant o'r traeth a phrofi ochr fwy gwyllt Bae Colwyn. Gan edrych dros y bae, nid dim yn unig y mae’r Sw Fynydd Gymreig yn ddiwrnod allan gwych i’r teulu, mae hefyd yn ganolfan bwysig ar gyfer cadwraeth bywyd gwyllt. Er enghraifft, mae'r gwaith a wneir yma yn helpu i ddiogelu niferoedd llewpard eira a’r panda coch - rhywogaethau sydd mewn perygl. Yn cynnwys sw anifeiliaid anwes, tŷ ymlusgiaid, maes chwarae antur ac amrywiaeth o drigolion blewog a phluog diddorol, mae'n werth mynd am dro yno.

Methu cael digon o natur? Ar ôl ymweld â'r sw, ewch am dro drwy Warchodfa Natur Bryn Euryn ar gyrion Llandrillo-yn-Rhos. Mae llwybrau troed addas i gŵn yn croesi'r coetir hyfryd hwn, gyda llwybr natur tywysedig yn mynd â chi i fyny i'r copa. Yma fe welwch chi adfeilion Llys Euryn, plasty o'r 15fed ganrif, a bydd golygfeydd godidog yn eich disgwyl sy'n ymestyn o Drwyn y Fuwch yn Llandudno i'r Rhyl, waw! 

Darn bach o hanes

Os cawsoch eich sbarduno gan hanes lleol ym Mryn Euryn, rhaid i chi ymweld â chapel hanesyddol Sant Trillo yn Llandrillo-yn-Rhos. Yn un o eglwysi lleiaf Prydain, wedi'i lleoli ar lan y môr, dim ond lle i chwech o addolwyr ar y tro sydd yno. Mae'r capel wedi'i gysegru i Sant Trillo, cenhadwr o Lydaw a ddaeth i Gymru yn y 6ed ganrif, ac mae'r adeilad yn sefyll dros safle ffynnon naturiol, y credir bod ei dyfroedd yn sanctaidd. 

Bwyd arfordirol: swper wrth y môr

Wrth i'r haul fachlud dros y bae, mae gan Fae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos ddewis eang o fwytai croesawgar sy'n berffaith ar gyfer gorffen diwrnod wrth yr arfordir. Boed yn fwyd cain neu'n swper tafarn, mae yna fwytai i weddu i bob chwaeth yma.

Am brofiad bwyta panoramig ar lan y môr, beth am archebu bwrdd ym mwyty Bryn Williams ym Mhorth Eirias, lle caiff cynhwysion tymhorol Cymru eu gweini ochr yn ochr â golygfeydd godidog o'r môr. Yn fachgen lleol o Ddinbych, daeth Bryn yn enwog ar ôl ennill ‘The Great British Menu’ yn 2006. Aeth yn ei flaen i redeg Odette’s yn Llundain cyn dychwelyd i’w wreiddiau yng Ngogledd Cymru. Ceir golygfeydd godidog o’r bae o’r bistro bwyd môr cain hwn, a phrydau arbennig blasus sy'n newid bob dydd.

Os ydych chi'n chwilio am awyrgylch tafarn glan môr hamddenol, mae'r Rhos Fynach yn ffefryn lleol, yn cyfuno bwyd calonnog â lleoliad hanesyddol. A dim ond ychydig o gamau o’r traeth!  Mae hanes diddorol i’r dafarn, gyda'r safle wedi bod dan feddiant ers y cyfnod Rhufeinig. Mae mynachod, uchelwyr Cymreig canoloesol a herwlongwyr i gyd wedi ymweld â'r Fynach - does ryfedd fod sôn am ysbrydion yn byw yno! Gyda bwydlen draddodiadol yn gweini’r holl ffefrynnau bwyd tafarn, golff gwyllt, gardd gwrw fawr a pharlwr hufen iâ, mae'r dafarn hon sy'n croesawu cŵn yn lle gwych i ddod â'r holl deulu.

Am rywbeth ychydig yn wahanol, mae bwyty Portiwgalaidd Virgilio's yn cynnig cymysgedd o flasau Môr y Canoldir a phrydau wedi'u paratoi'n ffres yng nghanol Bae Colwyn. Mae'r bwyty teuluol hwn yn ffefryn lleol, dim ond tafliad carreg o'r promenâd. Mae cymaint o ddewis ar y fwydlen, sy'n cyfuno ffefrynnau Eidalaidd, fel bruschetta a phitsa, â phrydau Portiwgalaidd blasus, gan gynnwys sgiwerau Espetada enwog Virgilio’s - rhywbeth y mae'n rhaid rhoi cynnig arno.

Os ydych chi'n chwilio am fwyd tafarn traddodiadol gydag awyrgylch hamddenol, Pen-y-Bryn yw’r lle delfrydol. Mae'r dafarn boblogaidd hon sydd wedi'i lleoli'n uchel uwchben Bae Colwyn yn enwog am ei chinio dydd Sul ac yn gweini bwyd a diodydd amrywiol sy'n defnyddio cynhwysion lleol a thymhorol. Yn ystod misoedd yr haf, mae gardd gwrw’r dafarn, sydd wedi’i haddurno â blodau, yn lle hyfryd i dreulio prynhawn heulog – mae yna hyd yn oed gemau gardd enfawr i ddiddanu’r plant!

Codi’r llen wrth i’r haul fachlud

Os oes gennych chi egni ar ôl, beth am ddod â’r diwrnod i ben gydag ymweliad â Theatr Colwyn, yng nghanol Bae Colwyn. Yn hŷn na 140 o flynyddoedd oed, mae'r adeilad cyfareddol hwn o arddull Fictoraidd yn gartref i theatr a sinema weithredol hynaf Cymru. Wedi'i ddinistrio bron yn llwyr gan dân ym 1930, ailadeiladwyd y theatr yn ofalus ac mae'n parhau i ddiddanu cynulleidfaoedd hyd heddiw. Heddiw, mae'r theatr yn dangos amrywiaeth o ffilmiau a pherfformiadau byw i gynulleidfaoedd o bob oed, gyda rhaglen lawn o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.

Cynllunio eich diwrnod allan ym Mae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos

Gobeithio eich bod wedi mwynhau eich diwrnod allan ym Mae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos. P'un a fyddwch chi’n dilyn ein canllaw neu'n ei ddefnyddio i gael ysbrydoliaeth ar gyfer eich gwyliau glan môr eich hun, mae cymaint i'w weld a'i wneud - weithiau nid yw diwrnod yn ddigon! Gall ein gwefan eich helpu i gynllunio eich ymweliad â Sir Conwy – o deithio a llety, i ddyddiau allan a phethau i’w gweld a’u gwneud. Dechreuwch gynllunio eich ymweliad rŵan!

Pethau i'w gwneud ym Mae Colwyn a Rhos-on-Sea

Rhos Fynach

  • Rhos Promenade

Tafarn a bwyty ar lan y môr sy’n croesawu cŵn a phlant, gyda gardd gwrw fawr yn…

Theatr Colwyn

  • Abergele Road

Mae Theatr Colwyn yn theatr a sinema hanesyddol sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i…