Yr haf yng Nghonwy - rhywbeth i bawb
Mae’r haf yn Sir Conwy’n llawn posibiliadau, ac rydym ni yma i’ch helpu i wneud y mwyaf o bob diwrnod hir a braf. Gyda chymaint i’w gweld, gwneud a’u darganfod, efallai y bydd yn anodd cyrraedd pobman! I’ch helpu i gynllunio, rydym wedi casglu rhywfaint o syniadau am bethau i’w gwneud a ffyrdd i fwynhau’r tymor, gydag opsiynau addas ar gyfer diddordebau, cyllidebau a chyfnodau gwahanol. P’un a ydych yn cynllunio diwrnod allan i’r teulu, penwythnos rhamantus, gwyliau gyda’r ci neu antur awyr agored Cymreig, mae gan Gonwy brofiadau a dyddiau allan addas i bawb yr haf hwn.
Bydd digon o gyfleoedd ar hyd y ffordd i oedi a mwynhau bwyd a diod lleol arbennig, o hufen iâ ar lan y môr a chaffis hyfryd, i wledda awyr agored a blasau lleol. Os nad yw un diwrnod yn ddigon, mae nifer o lefydd aros ar gael i’ch croesawu ar draws y sir, gan roi rhagor o amser i chi grwydro ar eich cyflymder eich hunan.
-
Gyda rhywfaint o’r traethau gorau yng ngogledd Cymru ar eich carreg drws, ni fyddwch byth yn bell o sŵn y tonnau, awyr iach y môr a’r cyfle i deimlo’r tywod rhwng bodiau eich traed. Sut bynnag yr hoffech chi dreulio eich dyddiau ar y traeth - p’un a ydych chi’n chwilio am weithgareddau hwyliog a thraddodiadol ar lan y môr, cyfle i ymlacio a gorffwys, neu ddihangfa rhag bywyd bob dydd - mae traeth perffaith yn aros i gael ei ddarganfod gennych yn Sir Conwy.
Ble arall fedrwch chi gerdded ar hyd pier hiraf Cymru, adeiladu cestyll tywod tra mae cogydd enwog yn paratoi cinio, cael llun gyda Python go iawn, neu wylio’r machlud yng nghwmni geifr y Gogarth? Dim ond yn Sir Conwy!
-
Mae’r haf yn amser perffaith i brofi awyr agored gwych Conwy. Gyda dyddiau hirach, tywydd cynhesach a chymaint o ffyrdd gwahanol i grwydro, mae digon o reswm i fynd allan a darganfod tirweddau’r sir ar eich cyflymder eich hunan. P’un a ydych yn teithio ar droed, dwy neu bedair olwyn, neu ar drên hyd yn oed, mae arfordir, cefn gwlad a mynyddoedd Conwy’n cynnig profiadau awyr agored sy’n hygyrch i bawb.
O fynyddoedd garw Parc Cenedlaethol Eryri a bryniau godidog Hiraethog, i ddirgelwch Coedwig Gwydir a rhostir hynafol y Gogarth, mae’r ymdeimlad o antur yn anochel wrth grwydro Sir Conwy.
Gydag amrywiaeth o lwybrau a theithiau sy’n addas i bob gallu, mae eich antur nesaf yn aros amdanoch yng Nghonwy.
-
Mae gan bob tref yn Sir Conwy stori i’w hadrodd - straeon sydd wedi goroesi’r canrifoedd hyd heddiw. Gallwch fwynhau gwyliau mawreddog Fictoraidd yn Llandudno, gwrthsefyll yr ymosodwyr o waliau hynafol Conwy, sianelu’r artist tirlun oddi ynoch ym Metws-y-Coed, eistedd yng ngorsedd teulu brenhinol hynafol Cymru yn Nolwyddelan… a llawer iawn mwy.
Byddwch yn darganfod safleoedd hanesyddol ym mhob cornel o Gonwy - o ddyluniadau crand i gartrefi diymhongar, rydym ni’n falch iawn o bob un ohonynt. Mae gennym dai bychain a chaerau mawreddog, pontydd uchel a mwyngloddiau, dirgel, eglwysi hynafol a gerddi moethus a hardd. Ni sydd biau’r safleoedd hanesyddol diddorol hyn ac rydym yn falch o’u rhannu gyda phawb.
-
Mae digonedd o ddyddiau allan i gadw’r teulu’n hapus trwy gydol yr haf eleni. Gydag amrywiaeth o atyniadau teuluol poblogaidd sydd wedi ennill gwobrau, gan gynnwys teithiau cwch, gweithgareddau adrenalin, chwaraeon, amgueddfeydd, sŵau a llawer o hwyl dan do (ar gyfer y dyddiau gwlyb anochel hynny), mae Conwy’n barod am haf llawn hwyl i bawb o bob oedran.
Mae digon o ddyddiau allan heb fynd i wario’n ddrud hefyd, o lwybrau seiclo a cherdded, i ddyddiau diog yn y parc neu bicnic ar y traeth. Mae wir yn bosib’ cael diwrnod cofiadwy a llawn hwyl yng Nghonwy!
-
Bydd Conwy’n dod yn fyw dros yr haf gyda rhaglen lawn o ddigwyddiadau ac adloniant, gan amrywio o wyliau enwog ar draws y byd i ddigwyddiadau cymunedol. Mae chwaraeon, perfformiadau awyr agored, gigiau cerddoriaeth a sioeau teithiol yn digwydd mewn lleoliadau ar draws y sir. P’un a hoffech chi wrando ar gerddoriaeth fyw mewn tafarn leol, gwylio sioe West End neu gêm chwaraeon rhyngwladol, mae digon o bethau’n digwydd bob dydd trwy gydol yr haf. Ewch i weld y digwyddiadau a gynhelir yn ystod eich ymweliad â Sir Conwy yma.
-
Bydd awch bwyd arnoch ar ôl yr holl grwydro! Mae’r haf yn amser perffaith i fwynhau’r holl fwyd a diod hyfryd yng Nghonwy, o hufen iâ ar lan y môr a chaffis hamddenol i erddi cwrw, bwytai hardd a llecynnau i wledda yn yr haul. Bydd cynnyrch lleol a thymhorol yn uchafbwynt, gyda blasau Cymreig, cacennau ffres a diodydd lleol i’w mwynhau ar hyd y ffordd. P’un a ydych yn chwilio am rywbeth sydyn rhwng anturiaethau neu’n awyddus i fwynhau pryd hamddenol yn yr haf, mae digon o lefydd ar draws y sir i fwynhau blasau gorau’r tymor.