Cinio Dydd Sul
Mae cinio Sul yn Sir Conwy’n arbennig iawn – y ffordd berffaith o arafu a mwynhau bwyd cartref blasus yn un o ardaloedd hyfrytaf Gogledd Cymru. Gallwch ddisgwyl llond plataid o gig rhost brau, tatws rhost crensiog, llysiau tymhorol a grefi go iawn, yn aml gyda phwdin moethus i ddilyn. Tafarndai clyd a bwytai croesawgar ydy’r lle delfrydol i dreulio amser braf gyda’ch teulu’n rhannu straeon, a chofiwch gadw lle i nôl mwy.