Canolfannau Croeso

Mae ein Canolfannau Croeso yma i’ch helpu chi i gynllunio eich ymweliad â Sir Conwy. Os ydych chi’n chwilio am gyngor lleol, mapiau, gwybodaeth am deithio neu gymorth i ddod o hyd i bethau i’w gwneud, gall ein tîm eich rhoi chi ar ben ffordd.

 

Beth mae Canolfan Groeso’n gallu ei gynnig?

Mae ein canolfannau ni’n cynnig:

  • Cymorth i drefnu llety - cymorth i ddod o hyd i leoedd i aros a’u harchebu
  • Cyngor lleol ar atyniadau, digwyddiadau a diwrnodau allan
  • Gwybodaeth am gludiant yn cynnwys amserlenni bws a chanllawiau teithio
  • Mapiau a chanllawiau ar gyfer trefi, teithiau cerdded ac atyniadau lleol
  • Eitemau manwerthu fel llyfrau, crefftau lleol, cardiau Cymraeg, a rhoddion bwyd a diod
  • Gwasanaethau archebu ar gyfer teithiau a gweithredwyr lleol penodol

 

Ble allwch chi ddod o hyd i Ganolfannau Croeso yn Sir Conwy?

Mae Canolfannau Croeso wedi’u lleoli mewn nifer o drefi ledled y sir.
Ewch i waelod y dudalen hon i weld yr holl Ganolfannau a Phwyntiau Gwybodaeth i Dwristiaid, a bydd pob un yn cynnwys dolenni i fanylion unigol.

 

Angen cymorth yn ystod eich ymweliad?

Mae ein tîm wrth law i roi awgrymiadau, ateb cwestiynau a'ch helpu chi i wneud y gorau o'ch amser yn Sir Conwy.