Amgueddfeydd ac Orielau

Mae Sir Conwy yn ymfalchïo yn ei hanes a’i chreadigrwydd, gydag amgueddfeydd ac orielau mor amrywiol â’r dirwedd ei hun. O gelf gyfoes a blaengar ym MOSTYN i’r straeon lleol cyfoethog a adroddir yn Amgueddfa ac Oriel Llandudno, mae digonedd ar gael i’w archwilio. Camwch yn ôl i Brydain yng nghyfnod y rhyfel yn Amgueddfa’r Home Front Experience, neu beth am ddarganfod artistiaid ysbrydoledig o Gymru yn yr Academi Gelf Frenhinol Gymreig yng Nghonwy.

Diwydiant a dyfeisgarwch sy’n siapio’r arddangosfeydd yn Amgueddfa Penmaenmawr, tra bo bywyd cefn gwlad yn dod wyneb yn wyneb â syniadau mawr yn Amgueddfa Syr Henry Jones ar Fynydd Hiraethog.

Beth bynnag fo’ch diddordebau - celf, diwydiant neu fywyd beunyddiol y gorffennol - byddwch yn siŵr o ddod o hyd i stori sy’n werth ei darganfod.