Parciau Gwledig a Llwybrau
Mae Sir Conwy yn gartref i rai o barciau gwledig a choetiroedd mwyaf hudolus Gogledd Cymru, yn cynnig milltiroedd o lwybrau cerdded hardd i bob oedran a gallu.
O bentiroedd arfordirol dramatig i goedwigoedd llonydd a gwlypdiroedd sy’n gyforiog o fywyd gwyllt, mae pob un yn cynnig ffordd unigryw o archwilio harddwch naturiol y rhanbarth.
Dyma awgrymiadau am rai o’r parciau a’r llwybrau i ymweld â nhw:
Parc Gwledig y Gogarth
Yn esgyn uwchben Llandudno, mae’r Gogarth yn bentir calchfaen syfrdanol â golygfeydd godidog o’r môr. Ymhlith y rhwydwaith o lwybrau cerdded wedi’u nodi’n glir mae taith gylchol Marine Drive, llwybrau natur ar lethrau dan garped o grug a llwybrau’n arwain at safleoedd hanesyddol megis y mwyngloddiau copr hynafol a’r ganolfan ymwelwyr ar y copa. Mae’n bosibl i’r rhai sy’n frwd am fywyd gwyllt weld geifr, adar môr a phlanhigion prin ar hyd y daith.
Gwarchodfa Natur Leol Coed Bodlondeb
Y tu allan i furiau tref Conwy, mae Coed Bodlondeb yn barc coetir hamddenol sy’n ddelfrydol ar gyfer teithiau cerdded ysgafn. Mae ei lwybrau gydag arwyddion clir yn nadreddu drwy goed aeddfed, golygfannau dros y foryd a mannau tawel i gael picnic. Mae’r gylchdaith drwy’r coetir yn berffaith ar gyfer mynd â’r ci am dro, i deuluoedd ac unrhyw un sy’n chwilio am daith gerdded fer, hamddenol.
Gwarchodfa Natur RSPB, Conwy
Ar lan Aber Afon Conwy, mae’r warchodfa’n cynnwys llwybrau hygyrch o amgylch lagwnau sy’n gyforiog o adar. Mae’r gylchdaith yn cynnig cyfle i wylio bywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn, o rydwyr y gaeaf i deloriaid yr haf. Mae llwybrau pren, golygfannau a chuddfannau’n ei wneud yn ddewis gwych i rai sy’n hoffi natur ar bob lefel.
Parc Coedwig Gwydir
Yn ymestyn dros y bryniau uwchben Betws-y-coed a Llanrwst, mae Coedwig Gwydir yn gyforiog o lynnoedd, rhaeadrau a llwybrau drwy goetiroedd. Ymhlith y llwybrau cerdded poblogaidd mae taith Llyn Parc, llwybr Pont Cloddwyr, a llwybrau hardd yn cysylltu â Llwybr Gwydir a thir Castell Gwydir.
Coedwig a Chronfa Ddŵr Alwen
Un o nodweddion y goedwig dawel hon yw cylchdaith syfrdanol 7 milltir Cronfa Ddŵr Alwen, yn cynnig golygfeydd o’r llyn, bywyd gwyllt a thaith gerdded heddychlon drwy goetir. Mae’n boblogaidd gyda cherddwyr a beicwyr sy’n chwilio am lwybr hardd, cymedrol.