Ffordd y Gogledd: Ar Drywydd Bwyd a Diod
Mae Ffordd y Gogledd, sy'n cychwyn wrth y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac yn ymlwybro tua'r gorllewin am 75 milltir / 120km i ben draw Ynys Môn, yn un o dri llwybr Ffordd Cymru sy'n arwain ac yn ysbrydoli ymwelwyr. Cafodd pob 'Ffordd' ei dylunio fel profiad hyblyg, ac nid fel rhywbeth i'ch cyfyngu, gyda llu o gyfleoedd i chi adael y prif lwybr, dilyn eich trwyn a darganfod mwy.
Yn y rhaglen bedwar diwrnod hon, byddwch yn cael blas ar beth o'r bwyd a'r diod gorau ar Ffordd y Gogledd ac o'i chwmpas, o bysgod ffres o'r môr a chig eidion a chig oen Cymreig sydd gyda'r gorau yn y byd i winoedd, cyrfau a gwirodydd sy'n ffrwydrad o flas lleol.
Diwrnod 1
Cychwynnwch eich taith yn Siop Fferm Ystâd Penarlâg. Chwiliwch y silffoedd am gynnyrch Cymreig anhygoel, cymerwch frechdan o fara wedi'i bobi'n ffres, a chasglwch eich ffrwythau a'ch llysiau eich hun yn ystod misoedd yr haf. Unwaith y byddwch chi'n teimlo'n sychedig, ewch draw i Fragdy Magic Dragon ym Mharc Hamdden y Plasau ger Wrecsam am frag sydd wedi ennill gwobrau cwrw annibynnol.
Wedi hynny, dilynwch yr A539/A5 trwy Ddyffryn Llangollen i Ystâd Rhug yng Nghorwen, lle mae modd i chi brynu popeth o gig oen Cymreig brau i gaws cyfandirol llawn blas yn y siop fferm (neu gadewch i rywun arall wneud y gwaith coginio drosoch chi trwy fynd am bryd i'r Bison Grill Bistro).
Awgrym i aros dros nos: Corwen.
Diwrnod 2
Gyrrwch ar hyd yr A5/A470 heibio bryniau, gweunydd a dyffrynnoedd i Fae Colwyn, lle mae bwyty Bryn Williams ym Mhorth Eirias dafliad carreg o'r môr ar ymyl adfywiedig y bae. Cafodd ei enwi yn Fwyty'r Flwyddyn Cymru yn 2019 gan yr AA, ac mae ei fwydlen, sy'n cynnwys bwyd môr lleol (rhowch gynnig ar y cregyn gleision), cig ffres o'r fferm a chynnyrch tymhorol, yn cynnwys rhywbeth fydd at ddant pawb.

Ewch yn eich blaen wedyn am daith o amgylch Gwinllan Conwy, lle cewch ddysgu sut y caiff eu gwinoedd gwobrwyedig eu creu (yn ogystal â'r cyfle i flasu ambell un). Ewch wedyn at Siocledyddion Artisan Baravelli's yng Nghonwy. Dyma'r unig fan yng Nghymru lle caiff siocled ei greu 'o'r ffeuen goco i'r bar', ac mae'n llawn dop o ddanteithion blasus wedi eu crefftio'n gywrain.

Ewch draw i Venue Cymru yn Llandudno am raglen llawn dop o adloniant theatrig. Dewiswch o bantomeim teuluol traddodiadol (poblogaidd iawn dros y Nadolig), perfformiadau gan Opera Cenedlaethol Cymru, cerddoriaeth bop, perfformiadau dawns a dramâu poblogaidd o’r West End.
Theatr Colwyn, Bae Colwyn yw’r theatr a sinema hynaf sy’n gweithio yng Nghymru – ac mae’n dal i ffynnu, wedi’i moderneiddio bellach i gynnig profiad adloniadol yr 21ain Ganrif.
Os mai ffilmiau sy’n mynd â’ch bryd, mae’r holl deitlau diweddaraf i’w gweld yn Cineworld yng Nghyffordd Llandudno.
Awgrym i aros dros nos: Conwy neu Landudno.
Diwrnod 3
Ewch ymlaen ar eich taith i Abergwyngregyn ger Bangor i ymweld â Distyllfa Aber Falls. Ewch ar daith o amgylch y ddistyllfa arloesol hon, un o bedair yn unig a leolir yng Nghymru, sydd hefyd yn cynhyrchu jin a gwirodydd â llaw. Anelwch am Fangor a Chaffi Blue Sky, lle mae'r fwydlen dymhorol ac amrywiol yn seiliedig, lle bynnag y bo modd, ar gyflenwyr lleol a chynnyrch organig. Dim ond hop, cam a naid o'r caffi yw'r daith i Winllan Pant Du ger Penygroes, sy'n cynhyrchu seidr a sudd afal blasus yn ogystal â gwin coch, pefriog a rosé.
Awgrym i aros dros nos: Caernarfon.
Diwrnod 4
Gan groesi Pont Britannia i Ynys Môn, ewch i Frynsiencyn am daith o amgylch Tŷ Halen a Chanolfan Ymwelwyr Halen Môn. O'i darddiad syml ar lannau'r Fenai, mae'r halen môr gwobrwyedig hwn bellach i'w weld ar fyrddau rhai o fwytai gorau'r byd.
Yn Llanddeusant, cewch hyd i Felin Llynon. Hon yw'r unig felin wynt weithredol yng Nghymru, a dyma'r lle i fynd am rai o gacennau gorau'r wlad, diolch i'r pobydd crwst o Fôn, Richard Holt. I orffen eich taith, ewch yn eich blaen i Fae Cemaes, lle mae Bwyty Bay View yng Ngwesty'r Gadlys yn gweini cynnyrch lleol megis cregyn gleision o'r Fenai, a hynny mewn ystafell fwyta ffasiynol gyda golygfeydd gwych dros y môr.
Awgrym i aros dros nos: Bae Cemaes.
Efallai y byddwch hefyd yn hoffi
Mae'n Antur
Profwch antur ar hyd Ffordd Gogledd Cymru, gyda llwybrau arfordirol, mynyddoedd, gweithgareddau awyr…
Taith Ddiwylliannol
Archwiliwch Ffordd Gogledd Cymru, taith ddiwylliannol drwy drefi hanesyddol, tirweddau hardd a…
Tirweddau a Golygfeydd
Darganfyddwch y tirweddau syfrdanol ar hyd Ffordd Gogledd Cymru, o fynyddoedd dramatig i…
Cam Wrth Gam
Darganfyddwch lwybrau cerdded ar hyd Ffordd Gogledd Cymru, o lwybrau arfordirol ysgafn i lwybrau…
Trefi a Phentrefi
Archwiliwch drefi a phentrefi swynol ar hyd Ffordd Gogledd Cymru, pob un yn cynnig treftadaeth…
Taith Golff
Darganfyddwch Daith Fawr Golffio Ffordd Gogledd Cymru, gyda chyrsiau arfordirol trawiadol…
Cestyll a Mannau Hanesyddol
Archwiliwch gestyll a lleoedd hanesyddol Ffordd Gogledd Cymru, o gaerau mawreddog i henebion hynafol…