Canolfannau Lles a Sba
I’r rhai sy’n dymuno dianc rhag bywyd bob dydd a chwilio am foethusrwydd, mae profiadau sba a lles yn cynnig cyfle i ymlacio mewn amgylchedd hardd. Perffaith ar gyfer oedi, anadlu a dechrau eto!
Ymhlith y profiadau sba i’w harchwilio mae:
Sba Deganwy Quay, ar lan y dŵr, mae’n cyfuno triniaethau i leddfu a phrofiadau thermal gyda golygfeydd tawel o’r môr.
Sba Plas Bodysgallen, yn swatio mewn parcdir syfrdanol, mae’n cynnig triniaethau tylino adferol, therapïau cyfannol ac ystafelloedd ymlacio heddychlon, mewn awyrgylch hynafol.
Sba Wave Garden yng Ngwesty Ixora, sy’n cynnig gwyliau lles tawel wedi’u hysbrydoli gan natur, gyda’u triniaethau tylino enwog, triniaethau adnewyddu ar gyfer y wyneb a defodau lles meddylgar.
Heblaw am y sba, mae cefn gwlad Conwy yn frith o encilion gyda’r bwriad o arafu ac ymlacio. Gall ymwelwyr ddod o hyd i dawelwch mewn bythynnod gwledig, llety eco a chuddfannau mewn coetiroedd.
Er mwyn cael profiad fydd yn eich ymdrochi mewn natur a chroesawu bywyd gwledig, mae Glampio Erw Glas yn cynnig profiadau sy’n canolbwyntio ar les.