Lleoedd i’w Hymweld â Chŵn yn Sir Conwy

Ydych chi’n meddwl am ymweld â Gogledd Cymru gyda’ch ffrind pedair coes? Chwilio am bethau i’w gwneud yn yr ardal gyda’ch ci? Peidiwch chwilio ymhellach! Rydym wedi nodi nifer o westai, bythynnod, atyniadau a chaffis i chi a’ch cyfaill blewog eu mwynhau.

Gallwch ymweld â holl brif atyniadau’r ardal gyda’ch ffrind pedair coes. Mae amrywiaeth o atyniadau, gwestai a chaffis yn yr ardal sy’n croesawu cŵn drwy gydol y flwyddyn. Yn ogystal, caiff y cyfyngiadau ar gŵn ar draethau ledled y sir eu codi rhwng mis Hydref ac Ebrill, felly gallwch chi ill dau fwynhau cerdded ar lan y môr drwy’r Hydref, y Gaeaf a’r Gwanwyn.

Rydym yn annog pawb sy’n berchen ar gi i fod yn gyfrifol 

Fel lleoliad sy’n croesawu cŵn, rydym yn annog pawb sy’n berchen ar gi i fod yn gyfrifol ar draws y sir. P’un a ydych yn ymweld â’n traethau, mannau agored neu gefn gwlad, mae’n bwysig eich bod yn ymgyfarwyddo â chyfyngiadau lleol a’ch bod yn ymwybodol o’ch cyfrifoldebau fel perchennog ci sy’n ymweld â Sir Conwy. Mae cyfyngiadau ar gŵn ar lawer o’n traethau ar adegau penodol o’r flwyddyn, ac mae anifeiliaid gwyllt a da byw mewn mannau eraill, fel y Gogarth, felly dylid cadw cŵn dan reolaeth bob amser. Rydym yn eich annog i wirio cyn ymweld â ni er mwyn cadw eich ci, da byw a bywyd gwyllt yn ddiogel.